“Mae hi’n adeg gyffrous i fod yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg”, yn ôl sylfaenydd gwefan gerddoriaeth annibynnol Klust.

Daw hyn ar ôl i Owain Elidir Williams dderbyn £2,500 o grant NextGenFund gan Youth Music er mwyn ehangu’r gwasanaeth.

Fe lansiodd y wefan ym mis Rhagfyr y llynedd, gan ariannu’r fenter o’i boced ei hun.

Dywedodd bryd hynny ei fod yn bwriadu “cefnogi artistiaid sy’n torri drwodd” a “rhoi sbin gwahanol ar bethau”.

Nawr, mae’n dweud bod ganddo uchelgais i dyfu’r fenter a bod grant NextGenFund yn allweddol er mwyn cyflawni ei uchelgais.

‘Uchelgais’

“Mae o’n mynd i sefydlogi’r holl beth a fy ngalluogi i gario ymlaen i ddatblygu’r wefan a dod â syniadau gwahanol i mewn,” meddai Owain Elidir Williams wrth golwg360.

“Mae o hefyd yn mynd i fy ngalluogi i’w wneud o’n fwy cynaliadwy.

“Yn hytrach na fy mod i’n hollol ddibynnol arna’ i fi fy hun, mae’n braf gwybod bod yna bot bach o bres yna i fi i gyflawni fy syniadau.

“Mae o’n braf cael cydnabyddiaeth hefyd a gwybod bod yna bobol y tu ôl i chdi, bod yna bobol yn gweld y potensial.

“Ac mae cael cefnogaeth gan rywun fel Youth Music, wel, dim ond pethau da all ddod o hynna.

“Mae popeth yn ddigidol ar hyn o bryd, felly’r uchelgais ydi bod Klust yn dal i dyfu i fod yn llwyfan byw hefyd, dw i am iddo fo fod yn frand.

“Dw i hefyd yn awyddus i drefnu gigs, o bosib mewn llefydd dydy bandiau Cymraeg heb gael y cyfle i fynd draw iddyn nhw.

“Felly’r bwriad ydi cario ymlaen i dyfu, a gobeithio un dydd y byddai’n gwneud hyn fel swydd.

“Dw i wastad yn ysgrifennu’n slei bach, yn trio rhoi darnau at ei gilydd.

“Dw i ddim yn dweud fod hyn yn syniad newydd, mae gen ti gymaint o wefannau cerddoriaeth allan yna.

“Ond does yna ddim llawer yn rhoi sylw penodol i artistiaid o Gymru o bosib.

“Mae hi’n adeg gyffrous i fod yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg felly mae bod yn rhan fach o hynna yn y cefndir yn rhywle yn gyffrous.”

Klust ar y sîn yn “cefnogi artistiaid sy’n torri drwodd”

Huw Bebb

“Dw i wastad wedi dilyn miwsig Cymraeg, wedyn bwriad Klust ydi trio rhoi rhyw sbin gwahanol ar bethau”