Mae disgybl oedd yn torri mewn i’w ysgol i gysgu wedi cael cyfarfod ei gyn-athrawon am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.

Yn ystod cyfnod anoddaf ei fywyd, Ysgol Tryfan ym Mangor oedd yr unig le lle’r oedd John Barnett o Dregarth yn teimlo’n ddiogel.

Ym mhennod nesaf Gwesty Aduniad ar S4C nos Fawrth (Hydref 20), bydd John yn cael cyfle i gyffesu ac i ddiolch i’w athrawon.

Eifion Jones, neu ‘Jones Bach’, athro Mathemateg yr ysgol, wnaeth sylweddoli bod angen cefnogaeth ar John Barnett ar y pryd, a bydd John yn cael ei gyfarfod eto, ynghyd ag athro arall oedd yn annwyl iddo, Rhys Llwyd.

“Dw i’n 48; 16 o’n i’n gadael ysgol. Dw i’m wedi cael y chance i ddweud diolch i bobol ac ella bod nhw ddim wedi sylwi cymaint oedden nhw wedi gwneud i helpu fi, ond dw i’n gwybod,” meddai’r tad i dri o blant.

“Ti ddim yn anghofio pobol sydd wedi gneud pethau i chdi. Dw i’n teimlo mae’r athrawon yma wedi rhoi chance i fi mewn bywyd.

“Doeddwn i ddim yn licio bod adre.

“Doedd pethau ddim yn dda yna. Doeddwn i ddim yn teimlo’n saff. Doedd stepfather a mam fi ddim yn dda efo fi.

“Dwi’n meddwl oedd gan mam broblemau ei hun, ond bod y stepdad wedi adio i’r problemau.

“Doeddwn i ddim yn adnabod Dad felly oedd Taid fatha Dad i fi.

“Roeddwn i’n edrych at Taid fatha arwr. Fe wnaeth Social Services ddim gadael fi aros efo Taid; roeddwn i’n gorfod mynd nôl i foster care.

“Pobol foster care yn briliant efo fi, ond efo Taid oeddwn i isio bod. Pan es i i’r care homes a’r foster homes oedd yr athrawon yn help i fi.

“Dwi wedi gorfod tyfu fyny’n ifanc ac mae lot o fy mhlentyndod i wedi mynd, wedi drysu rili. Fe wnaeth Taid farw yn 1988, so survivio.”

‘Hafan ddiogel’

Roedd yr ysgol fel “hafan ddiogel” iddo, meddai wedyn.

“Doeddwn i ddim yn gorfod poeni yno; roeddwn i’n saff fan yna. ‘Se rhywbeth yn digwydd, fase’r teachers yn edrych ar fy ôl; roeddwn i’n trystio nhw.”

Aeth pethau o ddrwg i waeth erbyn iddo fod yn ei arddegau cynnar, wrth iddo orfod cymryd bwyd o ffreutur yr ysgol i oroesi, a chymryd lloches yn yr adeilad.

“Roeddwn i’n cysgu yn yr ysgol. Roedd yna ddarn o’r giât yn Tryfan roeddwn i’n medru ffitio drwyddo, ac roeddwn i’n gwybod bod plismon methu dod trwy’r twll yna.”

  • Bydd John Barnett yn ymddangos ym mhennod nos Fawrth, Medi 20 o Gwesty Aduniad am 9 o’r gloch ar S4C.