Bydd cynhyrchiad nesaf Canolfan Mileniwm Cymru yn “stwnsh grime-theatr hudolus” gan Fardd Plant Saesneg Cymru.

Wedi’i ysbrydoli gan ddiwylliant grime ac artistiaid fel Dizzee Rascal, Wiley, Skepta a Kano, stori hunangofiannol Connor Allen yw The Making of the Monster.

Mae’r cynhyrchiad yn dilyn hanes Connor Allen wrth dyfu fyny yng Nghasnewydd fel person hil-gymysg, heb dad yn ei fywyd.

Bydd The Making of a Monster yn cael ei berfformio yng Nghaerdydd rhwng Tachwedd 9 ac 19, ac yn adrodd stori’r bardd drwy rym grime a’r theatr.

“Wrth dyfu, mae hunaniaeth yn ffactor hollbwysig i bawb ac i mi’n bersonol, yn hil-gymysg a heb dad, doedd yr hunaniaeth yna ddim yn glir,” meddai Connor Allen, a ddaeth yn Fardd Plant Saesneg Cymru’r llynedd.

“Aeth fy chwiliad am hunaniaeth â fi ar hyd llwybr distrywiol; dyna arc stori’r darn yma.

“Trwy rannu fy stori i gyda chynulleidfaoedd, rwy’n gobeithio y bydd yn canu cloch gyda Connors eraill gyda chwestiynau tebyg am y byd, eu hunain a’r cwestiwn mawr; ‘lle mae fy lle i?’.”

‘Eithriadol o feiddgar’

Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, bod Connor Allen yn gwneud pwynt eithriadol o feiddgar gyda’r sioe, wrth iddo rannu ei atgofion mwyaf tyner o gyfnod cythryblus yn ei fywyd.

“Mae’n onest ac weithiau’n anodd ei wylio, ond yn y pen draw mae’n adlewyrchiad hynod aeddfed ar ail gyfleoedd; rhywbeth nad yw ein cymdeithas bob amser yn ei gynnig,” meddai.

“Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch iawn o gael dod â llais a stori nodedig Connor i’r llwyfan.”