Bydd gŵyl gerdd “eiconig” Iwerddon, Lleisiau Eraill, yn dychwelyd i Aberteifi eleni.
Fe fydd Lleisiau Eraill, gŵyl gerdd a rhaglenni teledu cerddoriaeth fyw Iwerddon, yn cael ei chynnal yn fyw am y tro cyntaf ers 2019 fis Tachwedd.
Fel rhan o’r arlwy, bydd tri niwrnod a thair noson o gerddoriaeth gan artistiaid o Gymru, Iwerddon a thu hwnt.
Cychwynnodd Lleisiau Eraill fel digwyddiad cerddorol untro mewn eglwys fechan yn Dingle yng ngorllewin Iwerddon ugain mlynedd yn ôl.
Ers hynny, mae’r ŵyl wedi tyfu ac wedi teithio i lefydd fel Llundain, Belffast, Efrog Newydd, Berlin, a Tecsas.
Cafodd yr ŵyl ei chynnal yn Aberteifi yn 2019 hefyd, ac eleni bydd Llwybr Cerdd yn cael ei gynnal mewn nifer o leoliadau o gwmpas y dref, gyda dros 80 o ddigwyddiadau.
Ynghyd â pherfformiadau cerddorol y Llwybr Cerdd, bydd sesiynau Clebran yn cael eu cynnal – sef sgyrsiau gydag artistiaid, newyddiadurwyr, unigolion creadigol a gwleiyddol.
Huw Stephens fydd yn llywyddu’r ŵyl, a bydd y prif berfformiadau yn cael eu cynnal yn Eglwys y Santes Fair a’u dangos yn fyw yn y Mwldan a’u ffrydio’n fyd-eang drwy YouTube Lleisiau Eraill.
Fe fydd cynnwys o’r penwythnos yn cael ei ffilmio a’i ddarlledu yn nes ymlaen ar S4C ac RTÉ hefyd.
‘Cryfhau’r ymgysylltiad’
Dywedodd Philip King, sylfaenydd yr ŵyl, eu bod nhw’n hynod falch bod Lleisiau Eraill yn dychwelyd i Aberteifi a’u bod nhw’n gweld “hadau partneriaeth a heuwyd yn 2019 yn dyfnhau ac yn cryfhau”.
“Bydd y digwyddiad hwn yn adeiladu ar y sgwrs a ddechreuasom gyda’n partneriaid yn Theatr Mwldan a Triongl yn ôl yn 2016.
“Mae’r Datganiad ar y Cyd gan Lywodraethau Iwerddon a Chymru yn ymrwymo i barhau a chryfhau’r ymgysylltiad creadigol hwn,a bydd yn adeiladu pont ddiwylliannol bwerus rhwng Iwerddon a Chymru dros y pedair blynedd nesaf (2022-2025).
“Bydd y gerddoriaeth yn wych ac yn dathlu rhai o’r lleisiau mwyaf rhyfeddol sy’n dod i’r amlwg yn Iwerddon a Chymru yn lleoliad prydferth Eglwys y Santes Fair.”
‘Dwy dref ddiwylliannol’
Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â theatr y Mwldan, a meddai Dilwyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol y theatr: “Rydym wrth ein bodd y bydd Lleisiau Eraill yn dychwelyd i Aberteifi yn 2022.
“Unwaith eto byddwn yn dathlu’r cysylltiadau arbennig rhwng Aberteifi a Dingle, dwy dref ddiwylliannol fywiog ar gyrion gorllewinol eu gwledydd, Cymru ac Iwerddon.
“Mae’n anrhydedd fawr i Aberteifi fod yn lleoliad Lleisiau Eraill yng Nghymru.
“Mae’n atgyfnerthu’r ymdeimlad o adfywiad Aberteifi fel man lle mae celf, diwylliant, creadigrwydd ac amgylchedd yn saili’n cymuned.
“Ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein ffrindiau o Iwerddon, ac at dridiau o gerddoriaeth wirioneddol wych.”