Bydd Lleuwen yn rhyddhau cân am y teulu brenhinol sydd ddim yn cael ei chwarae ar Radio Cymru’r wythnos hon.

Yn ôl yr artist, gyrrodd y gân ‘Rhyddid’ at Radio Cymru a chafodd ateb ar Fedi 12 yn dweud y byddan nhw’n ‘gweld beth yw’r sefyllfa cyn gynted bo modd’.

Ers hynny, dydy’r gân, a gafodd ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y newyddion am farwolaeth Elizabeth II, heb gael ei chwarae ar y radio.

‘Haeddu gwell na barn unochrog’

Mae Cymry’n “haeddu gwell na barn unochrog a naratif cydymffurfiol am deulu brenhinol Lloegr”, meddai Lleuwen wrth drafod y gân.

“Rhannais fideo o’r gân ar Intsagram a Facebook yn dilyn y newyddion am farwolaeth y Frenhines Elizabeth a’r cyhoeddiad y bydd Cymru, unwaith eto, yn cael ei gorfodi i gael tywysog o linach teulu brenhinol Lloegr,” meddai Lleuwen.

“Anfonais y fersiwn hwnnw o’r gân i BBC Radio Cymru ac er yr ymateb ffafriol iddi ar-lein, mae’r gân yn mynegi safbwyntiau gwahanol i naratif brenhiniaethol cyfredol y sefydliad felly doedd dim modd ei chlywed ar y radio.

“Nid yw’r gân yn amharchus nac yn ansensitif mewn unrhyw ffordd ond ymddengys ei bod bron yn amhosib mynegi na chlywed barn sy’n groes i’r graen yn y cyfryngau torfol yng Nghymru yn ystod y cyfnod diweddar o alaru gorfodol.

“Fel mae’r gân yn mynegi, mae’r cyhoedd yn llyncu’r hyn sy’n cael ei gyflwyno iddynt.

“Nid pawb sy’n dilyn y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig ymhlith y to hŷn. Mae’r Cymry yn haeddu gwell na barn unochrog a naratif cydymffurfiol am deulu brenhinol Lloegr.

“Mae’r ddadl am annibyniaeth – a’r gwir angen am ddatganoli darlledu o afael rheolaeth y sefydliad Prydeinig – wedi amlygu ei hun yn fwy nag erioed yn ystod y cyfnod hwn.”

Mae Lleuwen wedi cyhoeddi penillion y gân, fel y gall pobol farnu dros eu hunain am addasrwydd ei darlledu:

Rhyddid 

Fedrai ddim galaru rhywun dw i’m yn caru. Dim fy mai i ’di hynna.

Dw i’n cydymdeimlo wir Dduw – ma colli mam yn brifo i’r byw tu ôl i ddrysau.

 

‘Dyn nhw’n sbïo trwy ryw ffenest yn troi i ffwrdd o’r llanast ac edrych ar yr adar mân yn hedfan at eu rhyddid?

Rhyddid…

 

Mae Nain yn aros am gluniau, bydd hi’n oer yn ei thŷ yn y gaeaf ond y cwîn, ‘m ond y cwîn sy’n cael ei dagrau.

Mae’n llyncu popeth sydd ar ei sgrîn lle does dim sôn am goloneiddio’r tir na hiliaeth na chaethiwo.

 

Mae hi’n sbïo trwy ryw ffenest yn troi i ffwrdd o’r llanast ac edrych ar yr adar mân yn hedfan at eu rhyddid.

Rhyddid…

 

Fedra i’m gorfoleddu nac eilun addoli. Fedr neb fy ngorfodi.

Da ni ddim angen Prince of Wales ond dyna gawn ni doed a ddêl os na ddaw grâs i’n codiI sbio trwy ryw ffenest, troi i ffwrdd o’r llanast ac edrych ar yr adar mân yn hedfan at eu rhyddid.

Rhyddid…

Mr Phormula sydd wedi mastro’r sengl, fydd allan ar Fedi 23, a Hedydd Ioan sydd wedi gwneud y gwaith celf.

‘Ystyried fel pob cân arall’

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru y bydd y gân yn cael ei hystyried “fel pob cân newydd arall” ar gyfer eu rhestrau chwarae yn y dyfodol.

“Rydym yn chwarae traciau newydd yn barhaus,” meddai.

“Dim ond yn ddiweddar iawn y derbyniwyd y gân.

“Bydd y gân hon yn cael ei hystyried fel pob cân newydd arall ar gyfer ein rhestrau chwarae at y dyfodol”.