Bydd protestiadau’n cael eu cynnal dros y penwythnos i wrthwynebu newidiadau i amserlen BBC Radio Cymru.

Yn ôl trefnwyr y brotest yn Aberystwyth, mae Radio Cymru yn rhoi “cic-out” i gefn gwlad a’r celfyddydau.

Daw y brotest yn Aberystwyth, ac un arall yng Nghrymych, wedi i Radio Cymru gyhoeddi bod rhaglen Geraint Lloyd a rhaglen gelfyddydol Stiwdio, ynghyd â Phenwythnos Geth a Ger, yn dod i ben.

Mae dros 1,900 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar Radio Cymru i beidio â dod â rhaglen Geraint Lloyd i ben, ond bydd y brotest yn Aberystwyth yn rhywbeth gweledol, meddai’r trefnwyr.

Y prif reswm dros gynnal y brotest yw’r ffaith nad oes rheswm digonol wedi cael ei roi gan Radio Cymru dros gael gwared ar raglen Geraint Lloyd, meddai Anna ap Robert, sydd wedi trefnu’r brotest ar y cyd â Megan Jones Roberts ar ôl i bobol ofyn iddyn nhw beth maen nhw am ei wneud ynghylch y sefyllfa.

“Yr unig reswm sydd wedi cael ei roi mewn e-byst automatic reply gan Radio Cymru yw dweud am resymau cyllidebol a rhesymau cynulleidfaoedd,” meddai Anna ap Robert, sy’n briod â Geraint Lloyd.

“Rydyn ni’n gwybod yn iawn bod cynulleidfa Geraint Lloyd yn un o’r cynulleidfaoedd mwyaf sydd wedi bod, a’r cyllidebol – mae Geraint yn berson sy’n gallu cyflwyno, cynhyrchu, gweithio’r sain a phopeth. Dim ond un cynhyrchydd sydd gyda fe.

“Dydy e ddim yn dal dŵr, y rhesymau hynny.”

Mae Radio Cymru wedi cyhoeddi mai Caryl Parry Jones fydd yn cymryd drosodd ar y shifft hwyr ar ôl i raglen Geraint Lloyd ddod i ben ddiwedd mis Hydref.

“Mae golygydd Radio Cymru [Dafydd Meredydd] wedi dweud eu bod nhw’n targedu cynulleidfa wahanol, ond mae hynna’n golygu i ni eu bod nhw’n anwybyddu’r gynulleidfa sydd yna’n barod, sydd wedi dweud eu bod nhw’n siomedig ac yn grac am y peth,” meddai Anna ap Robert.

“Y rheswm mwyaf [tros brotestio] ydy’r ffaith eu bod nhw ddim wedi trafod dim byd gyda Geraint Lloyd na gyda’r tîm cynhyrchu.”

‘Cefn gwlad ar eu colled’

Peth arall sydd wedi siomi Geraint Lloyd ydy’r ffaith na chafodd gynnig slot arall ar gyfer ei raglen gan Radio Cymru, meddai Anna ap Robert.

“Rydyn ni’n deall bod newid mewn amserlenni, ond rhoi rhywbeth arall iddo fe efallai ar benwythnos neu rannu’r nosweithiau – bod dwy noson i Geraint a dwy noson i Caryl a’u bod nhw’n targedu’r gwahanol gynulleidfaoedd yn hytrach na gwaredu fe’n llwyr.

“Yn bwysicach fyth, maen nhw wedi jyst dympo ar gefn gwlad unwaith eto. Dydy cefn gwlad ddim yn cyfrif i Radio Cymru a’r BBC sy’n ganolog yng Nghaerdydd. Maen nhw’n meddwl mai dim ond cynulleidfa Caerdydd sy’n cyfrif – beth am weddill Cymru? Beth am gefn gwlad Cymru’n benodol?

“Mae [y gwrandawyr] wedi dweud yn glir eu bod nhw moyn y rhaglen, mae’r rhaglen yn cyrraedd nhw ar lefel bersonol, mae Geraint yn un o’r cyflwynwyr sy’n adnabod ei gynulleidfa ac maen nhw’n teimlo wedyn eu bod nhw’n gartrefol gyda fe, maen nhw’n dod i adnabod ei gilydd. Mae e’n cyffwrdd y gynulleidfa, dyw e ddim ymhell oddi wrthyn nhw.

“Os yw hwn yn ffordd maen nhw moyn denu cynulleidfa, maen nhw’n mynd ffordd wrong yn anffodus.

“Mae pobol yn mynd i golli’r rhaglen, mae’r rhaglen yna’n targedu cefn gwlad, ac mae cefn gwlad yn mynd i fod ar eu colled, a dyna’r rheswm rydyn ni’n cynnal protest.

“Dydyn ni ddim wedi cael rheswm digonol o gwbl gan y golygydd, rydyn ni eisiau iddo fe ddod â siarad yn gyhoeddus a rhoi rheswm digonol.

“Mae’n haws i Radio Cymru anwybyddu’r ddeiseb a meddwl ‘Pasith e’.

“Dyw e ddim yn mynd i basio, dydyn ni ddim yn mynd i roi fyny tan ein bod ni’n cael rheswm digonol gan y golygydd a rydyn ni’n mynd i wneud sŵn dydd Sadwrn.”

‘Gwerth gorau am arian’

Yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg mae Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru yn ymateb i’r beirniaid.

Yn ei lythyr mae Dafydd Meredydd yn dweud bod Radio Cymru yn gorfod ymdopi gyda “thoriad real yn y gyllideb o ystyried graddfa uchel chwyddiant”, ac felly “yn gorfod edrych o’r newydd ar ei hallbwn a sicrhau y gwerth gorau am arian i’n cynulleidfa”.

Mae yn sôn hefyd am yr angen “i bob rhan o’n hamserlen ddenu’r gynulleidfa fwyaf posibl”.

“Mae’r celfyddydau a chefn gwlad wrth galon Radio Cymru, a does dim dwywaith fod yr orsaf yn gyfan gwbl ymroddedig i roi sylw haeddiannol iddynt,” meddai Dafydd Meredydd yn ei lythyr, cyn awgrymu yn gryf y bydd yna raglen gelfyddydau newydd yn gweld golau dydd ar Radio Cymru.

“[Mae] bywyd cefn gwlad… eisoes yn cael ei adlewyrchu ar raglenni fel Troi’r TirBore CothiIfan EvansGalwad Cynnar a’r Bwletin Amaeth dyddiol. Bu’n rhaglenni yn darlledu o Sioe Môn, Sioe Dinbych a Fflint a Sioe Meirionydd eleni, yn ogystal â Sioe Fawr Llanelwedd. Byddwn yn parhau i drafod materion sy’n effeithio’r cefn gwlad ar ein rhaglenni newyddion yn ogystal ag archwilio pob cyfle i ehangu’r ddarpariaeth yma ar ystod o raglenni yn y dyfodol.”

Pan gyhoeddwyd bod rhaglen Geraint Lloyd yn dod i ben, dywedodd llefarydd ar ran BBC Radio Cymru fod gorsafoedd radio yn gwneud newidiadau o bryd i’w gilydd.

“Wrth groesawu’r lleisiau newydd rydym hefyd eisiau dangos ein gwerthfawrogiad i’r rheiny sydd wedi bod yn rhan o’r tîm hwyrol dros y blynyddoedd,” meddai.

“Diolch i Geraint Lloyd, Geth a Ger a Nia Roberts am eu holl waith a’u gwasanaeth i’r orsaf ac edrychwn ymlaen i chwilio am gyfleoedd i gydweithio â nhw eto yn y dyfodol.”

  • Bydd y brotest yn Aberystwyth yn cael ei chynnal ger Siop y Pethe am hanner ddydd ddydd Sadwrn (Medi 24), a bydd protest Crymych yn cael ei chynnal cyn taith hen dractors y dref am 10:30.

Y llythyr yn llawn yn fan hyn:

Boss Radio Cymru yn ateb y beirniaid

Ni fydd llai o sylw i’r celfyddydau ar Radio Cymru a’n gobaith yw denu cynulleidfa fwy i’r materion yma

Bron i 1,800 o lofnodion erbyn hyn ar ddeiseb i achub rhaglen Geraint Lloyd

Daeth y newyddion yn gynharach y mis hwn y bydd ei raglen yn dod i ben ar ôl 25 mlynedd o ddarlledu ar Radio Cymru

Radio Cymru yn taro rhech

Gwilym Dwyfor

“Bydd colled fawr ar ôl rhaglen ‘Penwythnos Geth a Ger’”