Cafodd newidiadau dadleuol i amserlen Radio Cymru gryn dipyn o sylw yn y Wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau diwethaf.

Yr hyn a gododd wrychyn y rhan fwyaf o wrandawyr oedd y penderfyniad hynod ryfedd i gael gwared â rhaglen Stiwdio Nia Roberts. Go brin y galla’ i ddweud llawer ar y mater sydd heb ei ddweud yn barod. Ond yn gryno, yr hyn sydd wedi gwylltio pobl yw bod hyn yn fwy na mater o daflu un o’n darlledwyr mwyaf profiadol, proffesiynol ac uchel eu parch ar y domen, golyga hefyd na fydd rhaglen ddynodedig wedi ei neilltuo ar gyfer y celfyddydau bellach. Mewn wythnos o ddarlledu ar ddwy orsaf mewn gwlad sydd yn rhoi cymaint o fri ar y pethau, yw awr yn ormod i’w ofyn?

Y peth mwyaf rhwystredig i mi yw’r diffyg gwybodaeth. Ni chafwyd llawer o eglurhad pam fod rhai rhaglenni yn cael y gic ac mae’n aneglur braidd os bydd unrhyw beth yn dod yn lle Stiwdio maes o law. Mae yna ryw deimlad o daro rhech ac aros i weld faint mae hi’n drewi am yr holl beth. Mae’n rhaid bod gan Radio Cymru eu rhesymau a dw i’n siŵr bod ganddyn nhw eu data ar nifer gwrandawyr ac ati. Ond nid niferoedd yw pob peth, mae gan ddarlledwyr cyhoeddus ddyletswydd llawer ehangach na hynny.

Yng nghanol yr holl gwyno cyhoeddus am driniaeth Stiwdio a deiseb i achub rhaglen Geraint Lloyd, dw i’n teimlo fod y drydedd raglen i gael ei disodli wedi cael ei hanghofio braidd. Bydd colled fawr hefyd ar ôl Penwythnos Geth a Ger.

Fel rhywun sydd yn aml ar daith hir yn y car ar nos Wener, mae Gethin Maldwyn Evans a Geraint Cledwyn Iwan wedi bod yn gymdeithion annwyl i mi ers bron i ddegawd.

Fe wna i fethu’r tynnu coes diniwed, y sgwrsus dibwys a’r gemau dyfalu bach gwirion. Fe wna i fethu’r cwis. Fe wna i fethu’r gerddoriaeth. Fe wna i fethu’r clipiau sain o raglenni eraill Radio Cymru wedi eu torri’n berffaith a’u hyrddio allan o’u cyd-destun i greu rhywbeth doniol iawn. Mae hiwmor y ddau’n blentynnaidd ond yn glyfar ar yr un pryd ac mae ganddynt berthynas wych ar y tonfeddi.

Yn bennaf oll fe wna i fethu llinell yr wythnos Pobol y Cwm, (a do Geraint, mi nath hi regi). A dwn’im os oedd yr amseru’n fwriadol ai peidio ond bydd y rhai craff ohonoch wedi sylwi ar Geraint yn gwneud cameo fel athro ar yr opera sebon yn ddiweddar. Cyffyrddiad bach neis!

Ond fel pe na bai hi’n ddigon o golled yn barod, cawsom ein hamddifadu o rai o’r rhaglenni olaf un oherwydd rheolau darlledu hollol annirnadwy’r BBC mewn cyfnod o alar. Fel rhaglen gomedi, ni chafodd Penwythnos Geth a Ger ei darlledu nos Wener ddiwethaf a dw i’n cymryd na chaiff ei darlledu’r wythnos hon chwaith. Waeth beth yw barn rhywun am y cwîn, mae’r syniad yma na ddylid darlledu unrhyw gomedi ar amrywiol blatfformau’r Bîb am bron i bythefnos yn… wel… chwerthinllyd!

Er bod llu o gyflwynwyr a chynhyrchwyr gwych yn gwneud joban anhygoel o’n gwneud ni anghofio, cawsom ein hatgoffa go iawn beth yw ein gorsaf radio “genedlaethol” dros yr wythnos ddiwethaf. Gwaharddiad ar chwerthin i bob pwrpas. Lle ydan ni’n bwy? Pa flwyddyn ydi hi? Dowch ‘laen Radio Cymru, fydd neb ddim callach, ddudwn ni ddim wrth neb.