Astudiais hanes am gyfnod byr yn Ysgol Rhydfelen – a’i ollwng pan ddaeth cyfle i ddewis fy mhynciau lefel ‘O’.

Er hynny, rwy’n cofio dysgu am y Rhufeiniaid (roedd ganddynt ymerodraeth a nifer helaeth o heolydd syth). Dysgais hefyd am yr Eifftiaid (roedd ganddynt shadoof).

Bu rhywfaint o sôn, ar adegau, am hanes Cymru fach. Am ambell i dywysog a fu farw – a Hywel Dda yn lladd Gollum yn y Rhyl (os cofiaf yn iawn).