O dro i dro, rydym yn rhyddhau erthyglau o’r tu ôl i’r pared pres i’w darllen yn rhad ac am ddim. Dyma golofn ddiweddaraf Dylan Iorwerth, sy’n ystyried yr ymateb a fu i farwolaeth Elizabeth II, Brenhines Lloegr…

 

Ar hyd y blynyddoedd pan fydd gweriniaethwyr yn cwyno am y frenhiniaeth, yr ateb ydi mai dim ond sefydliad symbolaidd ydi o, yn bwysig o ran seremoni a chreu teimlad braf a denu arian twristiaid.

Bellach, gyda’r Frenhines wedi mynd, y neges ydi ei bod hi wedi bod yn ffigwr gwleidyddol allweddol, yn “un o arweinwyr mwya’r byd erioed” (©Mary Elizabeth Truss) ac yn anferth ei dylanwad.

Arwydd arall o or-ddweud affwysol y cyfnod? Efo newyddiadurwyr call yn colli pob gafael ar eu cydbwysedd, e.e. “Dyma’r ennyd y mae hanes yn aros” (©Johnny Dymond, BBC).

Ond mae peryg fod y cyfan yn cuddio gwirionedd dyfnach.

Mae’n amlwg, bellach, o glywed tystiolaeth un prif weinidog ar ôl y llall, fod Elizabeth R wedi bod yn mynegi ei barn ar faterion y dydd am 70 mlynedd ac yn dylanwadu ar wleidyddion.

Ryden ni wedi clywed sôn canmoliaethus amdani’n ymyrryd yn Refferendwm Annibyniaeth yr Alban trwy awgrymu fod angen gofal, ac am achub sawl sefydliad milwrol rhag cael ei gau.

Ers sawl blwyddyn, mae papur newydd y Guardian (sydd bellach yn canmol ysbryd cyhoeddus anhunanol y Frenhines) wedi cyhoeddi straeon yn dangos bod gan y Goron yr hawl i ymyrryd a newid deddfau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar ei theulu.

Ond mae’n ddyfnach na hynny hefyd. Mae hysteria’r sylw, y galaru gorfodol, yr anwybyddu barn gweriniaethwyr a deiaria emosiynol y gohebwyr yn awgrymu bod rhywbeth mwy na bywyd un person yn y fantol. Ac mae polau piniwn yn awgrymu bod pobol yn deall y gwahaniaeth rhwng y Frenhines a’r Goron.

Mae’n naturiol i’r cenedlaethau hŷn deimlo sentiment wrth weld Elizabeth yn mynd – fel caneuon pop, mae hi ynghlwm wrth lawer o ddigwyddiadau yn eu bywydau nhw – ond mae’r myth sy’n cael ei greu o’i chwmpas hi yn wirion.

Mae’n ddigon posib ei bod hi’n gallach na llawer un a aeth o’i blaen ac mae’n ymddangos ei bod hi’n gallu bod yn ddigon llawchaidd mewn cwmni ond, yn fersiwn y cyfnod galaru, mae ei mân siarad dibwynt yn cael ei droi’n athronyddu proffwydol a’i bywyd elitaidd, breintiedig yn cael ei droi’n esiampl o aberth gwerinol.

Fe wnaeth hi les i enw’r Deyrnas Unedig efo’i pherthynas â’r Gymanwlad (aka gwaddol Ymerodraeth); fe gymerodd gamau dewr i gysylltu â De Affrica Nelson Mandela ac i ymweld ag Iwerddon ar amser tyngedfennol. Ond mi ddylai hynny fod yn digwydd dan arweiniad llywodraeth y dydd.

Mae perfformiad gwleidyddol y galaru wedi bod yn symbolaidd. Yn ei marwolaeth, fel yn ei bywyd, mae hi’n costio ffortiwn i ni – nid dim ond efo’r holl drefniadau a chostau diogelwch, ond hefyd trwy’r holl ganslo digwyddiadau (onid cynnal pethau, nid eu canslo ddylen ni wrth ddathlu bywyd rhywun?) a’r Ŵyl Banc fydd yn colli diwrnod arall i’r Gwasanaeth Iechyd a phob math o fusnesau.

Nid bai Elizabeth ei hun ydi hyn, wrth gwrs, ond y sefydliad. Yr unig esboniad sy’n tynnu’r holl ymdrybaeddu amharchus ynghyd ydi’r teimlad ei bod hi bellach yn cynrychioli rhywbeth a gollwyd – y cyswllt ola’ efo’r Hen Fawredd.

Mae yna rywbeth trist iawn yn y cyfan, ond nid yn y ffordd y mae’r gwleidyddion a’r newyddiadurwyr yn ei dybio.