‘Mae’r Cwricwlwm newydd sydd ar fin dod i rym yng Nghymru yn pwysleisio pwysigrwydd gwneud i ddisgyblion ddysgu’n gynta’ gan yr hyn sydd wrth eu tra’d nhw, cyn symud o’r dysg lleol hwnnw i wneud cysylltiadau gyda Chymru a gweddill y byd. A siawns na fydd hynny yn rhoi achos iddyn nhw ymhyfrydu yn eu milltiro’dd sgwâr. A gobeithio y bydd ein hathrawon ni ar draws y sir – sdim ots beth yw’r llyfr gosod, sdim ots beth yw thema’r tymor, sdim ots beth yw’r blwch i’w dicio – yn cyfeirio’n gyson at yr awduron gwych a fuodd ac sy’n para i fod ar garreg ein drws ni fan hyn yng Ngheredigion.’
Ceri Wyn Jones, Eisteddfod Genedlaethol Tregaron, 2022
Gwnaeth clywed y geiriau hyn gan ‘Feuryn y Talwrn’ gryn argraff arnaf. Wrth eistedd yn y babell lên, cefais fy nhywys ’nôl i Ysgol Morgan Llwyd yn y 1990au…
I.D.Hooson oedd un o’r unig feirdd y gwnes i uniaethu ag ef pan oeddwn yn yr ysgol. Teimlais yn hyderus fy mod yn deall ei gerdd ‘Y Pabi coch’, ac yn ogystal, mwynheais i hi. Roedd gwybod ei fod yn hanu o Rosllannerchrugog (pentref teulu fy nhad) yn rhoi mwy o hyder fyth i mi y gallwn efallai fod yn fardd ryw ddydd.
Cytunaf yn llwyr felly â’r hyn ddywedodd Ceri, ac roedd yn galonogol deall bod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cydnabod hyn. Rwy’n teimlo’n eithaf balch fy mod yn gwneud fy rhan i ddarparu mwy o wybodaeth am I.D.Hooson. Fodd bynnag, prin iawn yw’r wybodaeth amdano, mewn unrhyw iaith.
Y gwaith hyd yn hyn…
Yn ddiweddar, cefais fy nghomisiynu i ysgrifennu cofnod ar Hooson ar gyfer y llyfr The Dictionary of Literary Biography. Roedd gennyf eisoes ei ddwy gyfrol o farddoniaeth a’r gyfrol Y casgliad cyfan, gyda rhagymadrodd difyr gan Gareth Pritchard Hughes, brodor o Rosllannerchrugog (heddwch i’w lwch).
Yr oeddwn hefyd wedi prynu’r gyfrol am ei fywyd a’i waith, sy’n seiliedig ar draethawd buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1953, gan W.R. Jones; roeddwn wedi ei weld yng nghyfeiriadau Syr Thomas Parry ar wefan Y Bywgraffiadur Cymreig, yn y pwt ysgrifennodd yntau am Hooson.
Fodd bynnag, wrth chwilio am ragor o wybodaeth, ar wahân i lond llaw o erthyglau cryno ar wefannau, a rhai caneuon a cherddi a gyhoeddwyd yn unigol, cefais drafferth dod o hyd i fwy o ddeunyddiau.
Yn ddigon ysmala, cefais sgwrs serendipaidd mewn cyfarfod ‘Utopias bach’, ac mi wnaeth hyn arwain at gyfarfod hefo’r tîm ‘Prosiect Tirwedd Darluniadwy’. O fama, euthum ymlaen i drefnu dau ddigwyddiad dwyieithog am Hooson. Ac o ganlyniad i rhain, fe ddes ar draws gwybodaeth newydd annisgwyl.
Yn gyntaf, trefnwyd taith gerdded i’r panorama at garreg goffa Hooson; gosodwyd y carreg gan Urdd Gobaith Cymru, bedair blynedd ar ôl i’w lwch gael eu gwasgaru yno yn unol â’i ewyllys.
Aeth y daith gerdded yn dda, ac wrth wneud fy nodiadau i baratoi, roeddwn wedi sylwi bod 70 mlynedd ers gosod y garreg yn prysur agosáu. Fe wnaethom weithio’n gyflym a llwyddo i drefnu digwyddiad ar y diwrnod ei hun i anrhydeddu’r achlysur.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Llyfrgell Llangollen, sy’n adeilad hyfryd, ac aeth staff y llyfrgell gam ymhellach, gan ymchwilio ac archebu llyfrau o lyfrgelloedd eraill.
Pan gyrhaeddais, roedd arddangosfa trawiadol ar y wal, gan cynnwys lluniau o’r digwyddiad a gynhaliwyd ar y panorama ym 1954, lle daeth torf go lew o bobol – gyda thelyn fawr drwm ei olwg!
Roedd dau o’r llyfrau yn gyfieithiadau gwreiddiol o gasgliadau barddoniaeth Hooson. Blodwen Edwards oedd y cyfieithydd, ac roedd dyfyniad hyfryd ym mlaen y llyfrau o lythyr yr oedd Hooson ei hun wedi ei ysgrifennu at Blodwen. Cyn y noson honno, doeddwn i ddim yn ymwybodol o fodolaeth y llyfrau hyn, a does gen i ddim gwybodaeth ynglŷn â phwy oedd Blodwen Edwards.
Angen mwy o wybodaeth…
Mae’r prosiect tirwedd darluniadwy wedi’i leoli yn Nyffryn Dyfrdwy ac maent yn cael eu hariannu gan ‘Gronfa y Loteri’. Rhan o’u rôl yw helpu’r gymuned leol i werthfawrogi eu tirwedd a’u treftadaeth leol, felly mae fy mhrosiect i wedi ffitio i’r dim. Roedd hefyd ‘chydig o arian i droi fy nodiadau yn llyfryn, a rhoddwyd hwnnw yn rhad ac am ddim ar y noson.
Fodd bynnag, fel sy’n digwydd yn aml, mae pob cam wedi ennyn mwy o gwestiynau. Rwy’n awyddus i sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf o blant y wybodaeth orau bosib am y bardd a ddewisodd yr enw barddol ‘Hwsn’ pan dderbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd ym Mhort Talbot yn 1932.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, neu atgofion i’w rhannu, plîs cysylltwch: gwasgygororau@gmail.com