Medraf ddeall y dryswch. Ers 1996, mae tref Wrecsam wedi rhannu ei henw â’r fwrdeistref sirol mae’n rhan ohoni, wrth i hen sir weinyddol Clwyd gael ei diddymu. Nid yw hyn yn sefyllfa unigryw, ond wedi ei chyplysu â’r diffyg gwybodaeth sydd wedi ei rannu am y cais statws dinas, mae pethau’n parhau i fod bach yn amwys.

Gwawr y seithfed ddinas

Daeth Wrecsam yn ddinas yn swyddogol ar Fedi 1, 2022. Y bore hwnnw, roeddwn yn mynychu parti lansio yn llyfrgell Wrecsam ar gyfer ‘Y Llyfr llesiant’. Cyn y parti, es draw i’r Saith Seren am gyfweliad hefo BBC Radio Cymru.

Wrth brynu coffi, gofynnodd y barista am fy nghynlluniau’r diwrnod hwnnw. Soniais am arwyddocâd y diwrnod a mynegodd syndod, gan ei bod wedi cymryd fod Wrecsam bellach yn ddinas ers y cyhoeddiad cyntaf. Yn wir, rhaid cyfaddef nad oeddwn i, na gweddill y cyfweleion yn y Saith Seren y bore hwnnw, ychwaith wedi bod yn ymwybodol o’r newyddion hyn, tan i’r BBC gysylltu hefo ni.

Yn fy nghyfweliad, mynegais fy marn yn angerddol y dylid sicrhau fod buddion y statws yn cael ei rannu ar draws y ddinas gyfan, gan nodi Y Stiwt draw yn Rhosllannerchrugog fel un enghraifft o fenter a lleoliad ddylai fod ar y rhestr o ddigwyddiadau dathlu’r statws newydd. Synnais wedyn wrth weld yr erthygl ar BBC Cymru Fyw oedd wedi rhoi capsiwn o dan lun o’r Stiwt yn esbonio:

“Roedd Dr Wheeler yn cyfeirio at fentrau megis theatr y Stiwt yn Rhosllannerchrugog – sydd lai na phedair milltir o ganol Wrecsam”.

Gwelais hyn bach yn od achos ei bod yn awgrymu taw tref Wrecsam oedd y ddinas, yn hytrach na’r sir, yn enwedig yn sgil teitl yr erthygl sef “Ardaloedd cyfagos i gael budd o statws dinas Wrecsam?

Ond yn ôl yr hyn roeddwn wedi ei ddeall, bwrdeistref sirol oedd yn ddinas, ac felly mi roedd Rhosllannerchrugog fwy neu lai yng nghanol y ddinas newydd (gweler fy narlun o’r ddinas). Dechreuais gwestiynu fy nealltwriaeth o’r statws dinas – ai’r dref oedd hefo’r statws dinas wedi’r cwbl?

Diffyg gwybodaeth gywir a chadarn

Porais y we am wybodaeth, gan feddwl y byswn yn ffeindio’r atebion yn hawdd, bur debyg ar wefan y cyngor, neu’r cais ei hun. Ond amwys oedd pob tamaid o wybodaeth, gan gyfeirio yn unig at ‘Wrecsam’, yn hytrach na manylu lle yn union oedd hyn yn ei olygu. Penderfynais gael y wybodaeth graidd o Wicipedia, cyn ymestyn at ffynonellau mwy dibynadwy ar ôl hynny. Ond fwy o ddryswch fyth oedd yma.

Ar dudalen Wicipedia hen dref Wrecsam, mae’n honni ei fod “yn ddinas ac yn ganolfan weinyddol Bwrdeistref Sirol Wrecsam”. Ond os ewch chi wedyn i dudalen Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae honno’n honni ei fod yn “Bwrdeistref Sirol, hefo statws ddinas” – a hyn sydd yn gywir, er, prin iawn yw’r rheini ymysg trigolion yr ardal sydd yn ymwybodol o hyn.

Y dryswch a’r dicter

Un noson yn ddiweddar, fues draw yn y Saith Seren ac, ar ôl trafod faint roedden ni’n mwynhau’r rhaglen ddogfen ‘Welcome to Wrexham’, dechreuon ni siarad am y statws dinas. Roedd un cyfaill yn angerddol – “mae’n dref, mae o wastad wedi bod yn dref”, sef barn byddwch yn ei glywed hyd a lled yr ardal. Gofynnais ai’r dref neu’r sir oedd wedi ei throi’n ddinas. Cawsom drafodaeth ddifyr am hunaniaeth y sir a’r dref (fwy am hyn rywbryd arall), ond yn gryno, doedd neb yn siŵr, er bod pawb wedi meddwl taw’r dref oedd yn ddinas.

Felly gyrrais neges trwy borth ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam’ i ofyn, a chefais ateb yn ôl yn ddigon handi taw’r sir oedd nawr yn ddinas, ond fod o hefyd yn parhau i fod yn sir hefyd. Digon teg, ond wedyn gofynnais un neu ddau o gwestiynau eraill, a chefais e-bost newydd i yrru ati.

Ni sylwais ar natur yr e-bost nes i mi gael ymateb awtomatig (uniaith Saesneg) yn diolch i mi am fy nghais am wybodaeth o dan y ‘Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000)’, a byddent yn ôl mewn cysylltiad.

Nawr te, dim ond cwestiynau am y statws dinas, a lle’r oedd rhai ardaloedd yn sefyll, wnes i ofyn – siawns fod hyn yn ddigon cymhleth, neu yn ymwneud â chyfrinachau, i warantu cais o’r fath? Oni allai aelod o’r Cyngor fod wedi fy ateb mewn termau syml?

Ac felly, dyma le yr wyf wedi cyrraedd, yn disgwyl yr ymateb gan fy nghais FOI anfwriadol, a byddaf yn rhannu’r wybodaeth hefo chi yma.

1 https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/62691787

2 https://www.thegazette.co.uk/notice/4154400

 

Ymhellach

Cefais ymateb cychwynnol i fy nghais am wybodaeth, wnaeth gadarnhau taw’r Fwrdeistref Sirol Wrecsam sydd wedi derbyn statws dinas, yn hytrach na Wrecsam fel tref. Yn wir, medrwch weld tystiolaeth o hyn ar wefan Swyddfa’r Goron.

Fodd bynnag, pan ofynnais ambell i gwestiwn ychwanegol, nid oedd yr aelod o staff y Cyngor oedd wedi fy ateb yn siŵr o’r atebion, felly gwnaethpwyd ail gais. Ar ôl ychydig o oedi, cefais ateb, ac, ar ôl ei gyfieithu o’r Saesneg, dyma rannu’r atebion hefo chi yma:

Cwestiwn 1: Mae gan y sir statws sir a dinas?

Gwnaethpwyd cais Wrecsam i Gystadleuaeth Anrhydeddau Dinesig y Jiwbilî Platinwm gan y Cyngor ar ran Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Bu’r cais yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth Statws Dinas a roddwyd gan ‘Lythyrau Patent’, sy’n rhoi statws dinas i Fwrdeistref Sirol Wrecsam. Felly mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam Statws Dinas.

Mae’r adran benodol o’r ‘Llythyrau Patent’ yn nodi “Bydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam o hyn ymlaen â statws Dinas a bydd ganddi’r holl freintiau ac imiwnedd rheng o’r fath ag sy’n digwydd yn Ddinas.”

Cwestiwn 2: Mae Rhosllannerchrugog o fewn y ddinas newydd ond hefyd yn dal yn y sir? (Roedd hyn er mwyn gwneud yn gwbl sicr fy mod yn iawn wrth ddisgrifio’r Stiwt fel lleoliad i gynnal digwyddiadau yn y ddinas).

Mae Rhosllannerchrugog o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd bellach â Statws Dinas.

Cwestiwn 3: Ydy Llangollen Wledig o fewn y ddinas newydd, ac yn dal i fod yn ward o fewn y sir? (Roedd hyn i gadarnhau ffiniau’r ddinas-sir).

Mae Llangollen Wledig o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd bellach â Statws Dinas.

Cwestiwn 4: A oes gan dref Wrecsam statws tref o hyd, neu ai canol y ddinas ydyw bellach?

Gellir defnyddio’r term Canol y Ddinas yn gyfreithlon.

Cwestiwn 5: A oes map ar gael i’r cyhoedd i ddangos ffiniau’r ddinas?

Nid oes unrhyw newid i ffin y Fwrdeistref Sirol na ffin anheddiad trefol Wrecsam. Gellir cyrchu mapiau ar lawer o lwyfannau cyhoeddus, megis Arolwg Ordnans, ac ati.

Ôl nodyn: Wrth sbïo ar Google Maps, medrwch weld yn glir fod hen dref Wrecsam nawr yn swyddogol wedi ei nodi hefo’r geiriau ‘Canol y ddinas’.

Noson i ddathlu gwaith a chyfraniad y bardd I D Hooson

Cadi Dafydd

Mae hi’n 70 mlynedd ers i’r Urdd osod carreg goffa i’r bardd ger Llangollen, a nod y trefnwyr ydy codi ymwybyddiaeth am ei waith yn lleol

“Sarhaus ac annheg” nad oes gan Iaith Arwyddo Prydain statws cyfreithiol

Cadi Dafydd

“Ar hyn o bryd, mae hi’n anodd iawn i bobol fyddar gael mynediad at wasanaethau iechyd a ballu, mewn iaith sydd yn naturiol iddyn nhw”

“Dydych chi ddim yn gorfod cael Cymraeg perffaith” i gymryd rhan yn y byd llenyddol, meddai un bardd

Dr Sara Louise Wheeler yn dweud fod tangynrychiolaeth ymysg pobol o’r gogledd-ddwyrain mewn talyrnau a rhwng cloriau cylchgronau llenyddol
Geraint Thomas

Enwau Prydeinig Gwyn? Beth am enwau Cymraeg?

Dr Sara Louise Wheeler

Sara Louise Wheeler, Darlithydd Polisi Cymdeithasol hefo’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ym Mhrifysgol Bangor, yn ystyried a ydi enwau Cymraeg, fel Geraint, yn gallu bod yn rhwystr