Mae Climate Cymru yn cydlynu ymgyrch o’r enw Cynnes Gaeaf Yma yng Nghymru, i annog Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i weithredu ar yr argyfyngau costau byw, ynni a hinsawdd sy’n gysylltiedig â’i gilydd.
Caiff yr ymgyrch ei harwain gan grwpiau gwrth-dlodi ac amgylcheddol, a chaiff ei chefnogi gan gannoedd o sefydliadau a miloedd o unigolion o bob cornel o Gymru.
Bydd yn lansio’n ddigidol ar Fedi 24, ac mewn lansiad mewn person ym Mangor ar yr un pryd.
Bydd yr ymgyrch yn treulio’r wythnos ganlynol yn teithio ac yn siarad â chymunedau ledled Cymru ochr yn ochr â Thaith Werdd Climate Cymru.
Mae gan Cynnes Gaeaf Yma Cymru bedwar prif ofyniad:
- Cefnogaeth frys at aelwydydd bregus
- Rhaglen effeithlonrwydd ynni uchelgeisiol
- Cynnydd cyflym mewn ynni adnewyddadwy cost isel
- Rhyddid rhag tanwyddau ffosil
Dywedodd Sam Ward, Rheolwr Climate Cymru:
“Mae yna argyfwng costau byw cynyddol, argyfwng ynni, ac argyfwng hinsawdd parhaus,” meddai Sam Ward, Rheolwr Climate Cymru.
“Mae’r argyfyngau hyn yn gysylltiedig.
“Maent yn rhannu achosion, fel tanwyddau ffosil, sy’n eu gwneud i gyd yn waeth, ac yn rhannu atebion a all ein helpu i ddod allan o’r llanast hwn, fel insiwleiddio tai Cymru ar raddfa fawr a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy glân, rhad iawn.
“Rydym yn gobeithio gweithio’n gynhyrchiol gyda Llywodraeth Cymru ar ein gofynion a’u gweithrediad, yn ogystal â chyda phartneriaid yn y Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud ei rhan i ddatgloi’r cyllid a’r ysgogiadau sydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion hyn ar y cyflymder a’r raddfa mae’r sefyllfa’n mynnu.”
Bydd Taith Werdd Climate Cymru yn cael ei chynnal rhwng Medi 24 a Hydref 2, yn ystod yr Wythnos Werdd Fawr, sef galwad fwyaf y Deyrnas Unedig i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.
Bydd cerbydau trydan yn teithio o amgylch Cymru yn ystod yr wythnos, gyda phob stop yn dangos straeon ysbrydoledig am weithredu newid hinsawdd yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth am bob stop ar y wefan yn https://climate.cymru/cy/y-daith-werdd-climate-cymru/
Bydd lansiad Cynnes y Gaeaf Yma am 11yb ar Fedi 24 yn Neuadd Penrhyn, Cyngor Dinas Bangor, ac mae’n cael ei gynnal gan bartner Climate Cymru, Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru, mewn cynulliad dinasyddion bach ar thema’r argyfwng costau byw.
Wythnos yn ddiweddarach, bydd Taith Werdd Climate Cymru yng Ngala Werdd Grangetown ar Hydref 1, ar gyfer digwyddiad cost-byw arall sy’n cyd-fynd â chyflwyno’r cap ar brisiau ynni.