Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau’r broses o gwympo coed llarwydd heintiedig yng nghoedwig Pont y Mwynwyr, ger Betws y Coed fis yma.

Mae ardal o’r goedwig sy’n gorchuddio 5.5 hectar wedi cael ei heintio â phytophthora ramorum a bydd coed yn cael eu cwympo i reoli lledaeniad y clefyd.

Bydd conwydd sy’n amgylchynu’r llarwydd heintiedig hefyd yn cael eu cwympo i liniaru ansefydlogrwydd mewn cnydau a difrod oherwydd stormydd yn y dyfodol.

Bydd cyfanswm o tua 1,400 tunnell o bren yn cael ei gwympo.

Fe fydd y gwaith, sy’n cael ei wneud dan Rybudd Iechyd Planhigion Statudol, yn dechrau ar Fedi 26, ac mae disgwyl iddo bara hyd at naw wythnos.

Yn ystod y gwaith, bydd mesurau rheoli traffig ar waith ar ran o’r A5 wrth ymyl y safle a bydd hawl tramwy cyhoeddus y goedwig yn cael ei chau i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Mae hyn yn cynnwys cyfyngu mynediad at Bont y Mwynwyr.

Atal lledaeniad pellach

“Mae’n hanfodol bod y coed yma’n cael eu torri er mwyn atal yr afiechyd rhag lledaenu ymhellach,” meddai Ian Sachs, arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Oherwydd lleoliad y safle, mae’r gwaith yn gofyn am fesurau rheoli traffig a rheoli mynediad i gadw pawb yn ddiogel.”

Yn anffodus, mae hyn yn golygu cyfyngu mynediad y cyhoedd i’r safle dros dro.

“Byddwn yn gweithio i leihau’r effaith ar y gymuned leol lle bo modd, ond ein blaenoriaeth yw cadw pawb yn ddiogel. Diolchwn i bawb ymlaen llaw am eu cydweithrediad,” meddai wedyn.

Mae’r safle’n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Afon Llugwy a bydd gwaith yn cael ei wneud mewn modd sensitif, gyda chaniatâd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, i amddiffyn ei fwsoglau prin.

Bydd cymaint â phosib o’r coed llydanddail yn yr ardal yn cael eu cadw i ddarparu gorchudd canopi ar gyfer y mwsoglau.

Bydd y gwaith hefyd yn cael ei wneud ar y cyd â CADW gan fod y safle hefyd yn gartref i Felin Mwynglawdd Plwm Afon Llugwy.

Er eu bod nhw wedi’u heintio, mae’r coed yn dal i fod yn gnwd hyfyw a byddant yn mynd i felinau pren sydd wedi’u trwyddedu i gymryd llarwydd heintiedig a byddan nhw’n cael eu defnyddio at wahanol ddibenion gan gynnwys ffensio a phren ar gyfer adeiladu.

Ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu ailblannu’r ardal gyda choed llydanddail brodorol i gyd-fynd â nodweddion SoDdGA’r safle, a lleihau effeithiau rhywogaethau anfrodorol ar y coed.