Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Mici Plwm, yr actor a digrifwr o Bwllheli yng Ngwynedd sydd Ar Blât yr wythnos hon.
Pan oedd hi’n “ddiwrnod golchi” – Dydd Llun fel arfer – er mwyn sicrhau nad oeddwn i o dan draed yn ystod y prysurdeb, fe fyddwn yn cael fy rhoi o dan fwrdd y gegin hefo crystyn torth a thoddion cig wedi ei daenu drosto. Dyna pam mae’n siŵr fod fy Mam yn fy ngalw yn Mici ‘dripping’! Dw i’n hoff iawn o fy mwyd, dyna pam o bosib fy mod i’n fychan o gorffolaeth ac yn grwn!
Does dim byd gwell i’m cysuro na lobsgóws neu gawl pys. Os dw i’n llwgu yn hwyr gyda’r nos mi na’i gael lobsgóws eildwym, gan wneud yn siŵr nad ydi o’n cipio yng ngwaelod y sosban wrth ei ail dwymo, a thafelli o fara surdoes.
Mae’r prydau bwyd sydd yn fy atgoffa o’r haf yn amrywio o wlad i wlad. Cyri pan dw i yn Islamabad; siopau Sgod a Sglods amrywiol fel yr un yn Whitby, Swydd Efrog a ‘Chippy Dre’ Tremadog – y gora’ yn y byd! – neu Frankie’s yn Brae, yn Ynysoedd y Shetland. A dw i wrth fy modd yn treulio amser yng Ngwlad Groeg, yn enwedig Ynys Agistri. Ymysg y prydau bydda’i yn eu mwynhau mae salad Groegaidd a phlatiad o silidons (‘whitebait’) neu octopws.
Cinio Sul efo cig oen, cig eidion neu borc gyda’r trimins amrywiol fydda’i yn gwneud os oes pobl yn dod draw am bryd o fwyd. Ac mi fydd yn cynnwys pys ‘slwj’ bob amser.
Mae gena’i silffoedd niferus o lyfrau rysetiau amrywiol iawn; yn eu mysg: Tir a Mor (Bryn Williams), Mrs Beeton’s All about Cookery, O’r Ardd i’r Bwrdd (Ann Moore), Llyfr Coginio a Chadw Tŷ, a Indian Meat & Fish Cookery gan Jack Santa Maria.
Rysait Mici Plwm – Treip neu ‘Mondongo’ fel y’i gelwir ym Mhatagonia
CYNHWYSION
4 pwys o dreip
2 neu 3 sleisen o gig moch wedi ei fygu
2 nionyn mawr wedi eu sleisio
2 neu 3 ddant o arlleg wedi eu malu
2 foronen fawr wedi eu torri’n weddol fân
4 neu 5 tomato neu dun mawr
1 cwpanaid o win gwyn
2 gwpanaid o ddŵr
Pupur, halen, oregano, paprika, llawryf (bayleaf) a thatws wedi eu torri yn fân
Tun o ffacbys [chick peas]
DULL
Berwch y treip mewn dŵr a halen nes ei fod yn feddal.
Ar ôl iddo oeri torrwch yn stribedi cul ac yn ddarnau ryw dair modfedd.
Ffriwch y cig moch a’r nionod mewn ychydig o olew nes bod y nionyn yn feddal.
Ychwanegwch y moron, y garlleg a’r tomato a’u coginio nes bod y moron yn barod.
Ychwanegwch y gwin, y dŵr, y pupur, halen, oregano, paprika a’r dail llawryf a gadael i’r cyfan goginio am ychydig eto – yna ychwanegu’r treip a’r tatws a’u coginio nes bod y tatws yn feddal.
Tuag at y diwedd ychwanegwch y tun o ffacbys, ac os bydd angen ychydig o ddŵr.
Os byddwch yn darllen y rysáit yma ac yn gwybod am gigydd sydd yn gwerthu treip – fe fyddwn yn hynod ddiolchgar am fanylion cyswllt!