Mae Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, yn galw am ymestyn y polisi prydau ysgol am ddim fel ateb i frwydro yn erbyn yr argyfwng costau byw cynyddol.

Mae’n galw ar yr Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles i ystyried y cynnig er mwyn atal plant rhag llwgu yn yr ysgol, ac yn dweud y bydd yr argyfwng costau byw yn golygu y “bydd y gaeaf hwn yn un o’r rhai mwyaf heriol yn hanes datganoli”.

Dywed y bydd cost droellog eitemau hanfodol bob dydd yn cael ei theimlo drwyddi draw, gan gynnwys ym myd addysg.

“Bydd y gaeaf hwn yn un o’r rhai mwyaf heriol yn hanes datganoli, oherwydd bydd yr argyfwng costau byw yn cael effaith greulon a didrugaredd ar bawb bron, ond yn enwedig y rhai mwyaf bregus, heb ymyrraeth sylweddol gan y wladwriaeth,” meddai.

“Mae addysg yn un o’r nifer o lefydd lle bydd yr argyfwng hwn i’w deimlo. Bydd rhai plant sydd ddim yn dod o dan ein polisi prydau ysgol am ddim yn mynd yn llwglyd y gaeaf hwn.

“Ydych chi wedi rhoi unrhyw feddwl i alwadau Plaid Cymru i ymestyn y rhaglen prydau ysgol am ddim cyffredinol fel mesur brys i blant ysgol uwchradd?

“Ac, ymhellach i’ch ateb i Sioned Williams yn gynharach—nad oes unrhyw arian pellach ar gael i ysgolion i fynd i’r afael â’r costau uwch—ble fyddech chi’n awgrymu bod penaethiaid yn torri eu cyllidebau er mwyn cadw’r goleuadau ymlaen?”

Ymateb

“Wel, bydd yr Aelod yn gwybod mai gobaith y Llywodraeth yw y bydd hi hefyd yn gallu gwneud mwy ym maes prydau ysgol am ddim, ond mae’r estyniad y mae’r Aelod yn cyfeirio ato yn ei gwestiwn yn un lle byddai angen i ni wneud y mathau o doriadau mewn rhannau eraill o’n cyllideb y mae’r Aelod yn fy ngwahodd i nodi y dylai ysgolion ei wneud yn eu cwestiwn,” meddai Jeremy Miles wrth ymateb.

“Felly, mae’r her yn sylweddol iawn, iawn.”