Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn annog pobol i gyflwyno’u henwebiadau, cyn y dyddiad cau fis nesaf, ar gyfer degfed seremoni flynyddol Gwobrau Dewi Sant.

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru ac maen nhw’n cydnabod y gwaith rhyfeddol sydd yn cael ei wneud gan bobol ryfeddol ledled Cymru.

Bydd y rhestr fer o’r rhai sy’n cael eu henwebu ar gyfer pob categori yn cael ei dewis gan banel annibynnol, arbenigol, a fydd yn chwilio am bobol sydd wedi cyflawni gweithredoedd anhunanol i gefnogi’r gymuned.

Y deg categori yw:

  • Gweithiwr Allweddol
  • Pencampwr yr Amgylchedd
  • Dewrder
  • Ysbryd Cymunedol
  • Diwylliant
  • Chwaraeon
  • Busnes
  • Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Person ifanc
  • Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

‘Dathlu arwyr go iawn’

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael dathlu arwyr go iawn Cymru bob blwyddyn, am 10 mlynedd yng Ngwobrau Dewi Sant,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’r enwebiadau ar gyfer gwobrau eleni ar agor – dyma’r cyfle perffaith i enwebu pobol yr ydych yn credu sy’n haeddu cydnabyddiaeth, boed yn ffrind, cydweithiwr, cymydog neu aelod o’r teulu.”

Ymhlith enillwyr y llynedd roedd swyddogion Heddlu’r De a beryglodd eu bywydau wrth geisio achub bywyd dyn 92 oed oedd yn gaeth mewn adeilad oedd ar dan; tîm o beirianwyr a myfyrwyr a ddatblygodd system cymorth anadlu jet wedi’i argraffu yn 3D i helpu yn ystod y pandemig a Daniel Lewis, 16 mlwydd oed, oedd wedi casglu mwy na 25 tunnell o wastraff anghyfreithlon o Gomin Merthyr a Gelligaer fel rhan o’i ymgyrch yn erbyn tipio anghyfreithlon.

Bydd yr enwebiadau’n cau ar Hydref 31, ac mae modd enwebu drwy wefan Gwobrau Dewi Sant.