Mae Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon ynglŷn â Bil newydd a allai olygu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deddfu mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad gweinidogion Cymru na’r Senedd.
Mae wedi rhybuddio hefyd y gallai arwain at ostwng safonau, ac ansicrwydd i bobol a busnesau.
Cafodd Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu) ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Iau, Medi 22).
Mae’r Bil yn cynnwys cyfres o bwerau eang a fyddai’n caniatáu i weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig newid neu ddileu corff enfawr o gyfreithiau mewn meysydd datganoledig sy’n deillio o’r cyfnod pan oedd y Deyrnas Unedig yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd – a’r cyfan bron wedi’u cytuno gan lywodraethau blaenorol y Deyrnas Unedig.
Mae’r amserlenni sydd wedi’u gosod gan y Bil yn golygu bod perygl gwirioneddol y gallai cyfreithiau ac amddiffyniadau allweddol ddiflannu ar ddiwedd 2023.
Amlinellu’r pryderon
Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at Jacob Rees-Mogg, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn San Steffan, yn gynharach yr wythnos hon i amlinellu ei bryderon am y ddeddfwriaeth, ac i bwysleisio’r angen am ddull gwahanol.
“Fel y mae wedi’i drafftio ar hyn o bryd, gallai’r ddeddfwriaeth hon olygu bod Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael awdurdod dilyffethair i ddeddfu mewn meysydd datganoledig – a hynny’n groes i’r setliad datganoli a sefydlwyd yn ddemocrataidd,” meddai Mick Antoniw.
“Mae hefyd yn peri risg o ostwng safonau mewn meysydd pwysig gan gynnwys cyflogaeth, iechyd a’r amgylchedd.
“Rydym yn siomedig bod y Bil wedi cyrraedd y cam hwn gyda chyn lleied o drafod â Llywodraeth Cymru ynglŷn â’i agweddau pwysicaf, ac rydym yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau’r newidiadau deddfwriaethol a fydd yn sicrhau bod statws cyfansoddiadol a setliad datganoli Cymru yn cael eu parchu a’u cadw.”