Mae Kwasi Kwarteng, Canghellor y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi cyfres o doriadau trethi a chymorth i dalu biliau ynni.

Daw’r cyhoeddiad mewn ‘cyllideb fach’ a gafodd ei chyhoeddi yn San Steffan heddiw (dydd Gwener, Medi 23).

Ymhlith y mesurau mwyaf dadleuol gafodd eu cyhoeddi mae dileu’r cap ar fonws bancwyr, a chael gwared ar y cynnydd arfaethedig yn y dreth gorfforaeth.

Mae’r trothwy cyn bod rhaid talu’r dreth stamp wedi codi i £250,000 a bydd cyfradd sylfaenol y dreth incwm yn gostwng i 19c fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Roedd y llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi tro pedol ar Yswiriant Gwladol a’r bwriad i gyflwyno parthau treth isel, ac mae Liz Truss, y prif weinidog, a’i llywodraeth yn dadlau y bydd y mesurau hyn yn hwb i’r economi.

Daw hyn ar ôl i Fanc Lloegr gyhoeddi ddoe (dydd Iau, Medi 22) y gall y Deyrnas Unedig eisoes fod mewn cyfnod o ddirwasgiad, tra bod beirniaid yn dadlau bod y mesurau’n gostus ar adeg pan fo dyledion yn uchel a chost benthyca’n codi.

‘Cynllun cynhwysfawr’

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae cynllun Kwasi Kwarteng yn un “cynhwysfawr” ac maen nhw wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am ddewis peidio torri trethi gan ddefnyddio’r pwerau datganoledig sydd ganddyn nhw.

“Mae heddiw’n dangos bod gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig gynllun cynhwysfawr i ddarparu hwb cyflym i’r economi drwy roi arian parod yn ôl ym mhocedi pobol,” meddai Peter Fox, llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae gan Lafur yng Nghymru y grym i dorri trethi yng Nghymru ond maen nhw’n dewis peidio.

“Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig [Liz Truss] yn rhoi uchelgais, cyfleoedd a thwf wrth galon yr economi.

“Ond mae gweinidogion Llafur yn parhau â’u polisïau treth ac yn gwastraffu polisïau, o gyflwyno’r dreth dwristiaeth i wastraffu £100m ar ragor o wleidyddion ym Mae Caerdydd.

“Mae angen i Mark Drakeford ddilyn esiampl Liz Truss a chymryd camau ar unwaith i gefnogi pobol sy’n gweithio’n galed a busnesau sy’n ei chael hi’n anodd, gan symbylu economi Cymru yn hytrach na’i llesteirio.

“Gadewch i ni beidio anghofio bod Llafur wedi cyfaddef nad oedden nhw’n gwybod beth roedden nhw’n ei wneud o ran yr economi – mae’r Canghellor wedi cyflwyno cynllun clir ar gyfer twf heddiw, ac mae angen i Lafur ei ddilyn.”

‘Gambl economaidd ffantasïol’

Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, mae cynllun Kwasi Kwarteng yn “gambl economaidd ffantasïol”.

“Mae diffyg realiti yn natganiad y Canghellor Kwarteng,” meddai.

“Mae aelwydydd a busnesau ledled Cymru’n wynebu gaeaf llwm o filiau nad oes modd eu fforddio a chwyddiant didrugaredd.

“Ymateb y Llywodraeth Dorïaidd yw bwrw ymlaen â gambl economaidd ffantasïol.

“Mae miloedd o aelwydydd gwledig yng Nghymru’n wynebu cynnydd enfawr mewn costau cynhesu olew.

“Mae’r swm pitw o £100 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn docenistaidd ac yn annigonol.

“Yn y cyfamser, mae’r Torïaid yn dileu’r gyfradd o 45% ar y dreth incwm i’r rhai sy’n ennill [y cyflogau] mwyaf.

“Mae hon yn llywodraeth ddigywilydd i’r rhai hynod gyfoethog.

“Gymru – pam derbyn hyn?”

Mae sylwadau Liz Saville Roberts wedi’u hategu gan Ben Lake, llefarydd Trysorlys Plaid Cymru.

“Datganiad i gefnogi’r bobl mwyaf cyfoethog gawson ni gan y Canghellor heddiw,” meddai.

“Mae aelwydydd a busnesau ledled Cymru yn wynebu gaeaf difrifol o filiau anfforddiadwy a chwyddiant cynyddol, ac ymateb y Llywodraeth yw i blesio’r cyfoethog iawn gyda ffantasi llwyr.

“Wrth i aelwydydd gwledig gael cynnig y swm pitw o £100 i dalu eu biliau ynni, mae’r gyfradd uchaf o dreth incwm yn cael ei diddymu ac mae’r terfyn ar fonysau bancwyr yn cael ei ddileu. Mae hynny nid yn unig yn foesol anghyfiawn ond yn anghyfrifol yn economaidd.

“Cyflwynwyd y cap ar fonysau bancwyr ar draws yr UE er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng ariannol byd-eang. Bydd dychwelyd bonysau heb eu capio yn arwain bancwyr i gymryd y math o risg ormodol a arweiniodd at argyfwng ariannol 2008 yn y lle cyntaf, gan ailadrodd polisïau a arweiniodd at drallod i filiynau o bobl.

“Ni fydd toriadau treth i’r cyfoethog iawn yn gwneud dim i sbarduno twf yn economi Cymru. O ystyried eu bod yn gwrthod buddsoddi yn ein seilwaith – rwy’n annog Llywodraeth y DU i gydnabod bod yn rhaid i’n llywodraeth yng Nghymru gael yr arfau cyllidol i ddatgloi ein potensial economaidd ein hunain. Dyna’r unig ffordd i wella bywydau pobl ledled Cymru.”

‘Rhestr o ddymuniadau’r rhai hynod gyfoethog’

Mae Tonia Antoniazzi, Aelod Seneddol Llafur Gŵyr, hefyd wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad.

“Mae’r datganiad heddiw’n darllen fel rhestr o ddymuniadau i’r rhai hynod gyfoethog,” meddai.

“Does dim amheuaeth pwy mae Liz Truss a Kwasi Kwarteng yn gofalu amdanyn nhw.”

Yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford, “mae’r Datganiad Cyllidol yma yn dwyshau annhegwch ledled y Deyrnas Unedig”.

“Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynnig cymorth i bobl sydd ei angen fwyaf – nid torri trethi i bobol gyfoethog, rhoi bonwsau i fancwyr, ac amddiffyn elw enfawr cwmnïau ynni,” meddai.

Yr un yw neges Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, hefyd wrth iddi hithau ymateb i’r cyhoeddiad.

Mae’n dweud ei bod yn “gyllideb sy’n colli gafael ac sydd wedi’i dylunio i fod o fudd i’r rhai hynod gyfoethog ar draul dinasyddion cyffredin”.

“Yr hyn rydyn ni wedi’i weld heddiw yw esgeulustod difrifol,” meddai.

“Mae’r Ceidwadwyr yn benderfynol o gyflwyno cyllideb sy’n dwyn oddi ar y rhai tlawd i dalu am y rhai hynod gyfoethog.

“Bydd rhywun sy’n ennill £200,000 y flwyddyn yn elwa ar £3,000 y flwyddyn yn ychwanegol, tra bod y rhai sy’n byw mewn tlodi’n parhau i’w chael hi’n anodd.

“Mae hi bron yn drosedd, ac yn colli gafael yn llwyr ar realiti.

“Fydd torri’r dreth gorfforaeth, dileu’r cap ar fonws bancwyr a dileu band ucha’r dreth incwm ar gyfer y rhai sy’n ennill dros £150,000 yn gwneud dim byd i helpu’r teulu cyffredin y gaeaf hwn.

“Mae’r Ceidwadwyr yn aildwymo’r un polisïau maen nhw wedi eu ceisio dros y saith mlynedd diwethaf sydd heb lwyddo ac sydd wedi gadael y Deyrnas Unedig, yn hytrach, gyda thwf disymud, anghydraddoldeb sy’n tyfu ac un o’r cyfraddau cynhyrchiant isaf yn Ewrop.

“Dyma’r gyllideb fwyaf ariannol anghyfrifol dw i wedi’i gweld yn cael ei chyflwyno, ac mi fydd yn arwain yn anochel naill ai at doriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus neu ragor o ddyled i’n plant a’n hwyrion trwy ragor o fenthyg.

“Mae angen etholiad cyffredinol arnom ar unwaith i ddileu grym y Llywodraeth Geidwadol anghyfrifol a diofal hon.”