Cyn cyhoeddiad cyllid Canghellor San Steffan heddiw (dydd Gwener, Medi 23), mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn dweud bod rhaid trethu “elwon anferth y cwmnïau nwy ac olew”.
Bydd Kwasi Kwarteng, y Canghellor newydd, yn cyhoeddi ‘cyllideb fach’ fore heddiw ac mae disgwyl iddo gynnwys pecyn o doriadau trethi.
Ond yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, dydy pobol Cymru ddim eisiau gweld toriadau trethi i fanciau a chwmnïau mawrion fel Amazon.
“Er fy mod i’n falch bod rhywfaint o help ar ei ffordd o’r diwedd, bydd y datrysiad dros dro hwn yn rhy hwyr i nifer o fusnesau bychan sydd wedi cau eu drysau am y tro olaf oherwydd eu bod nhw methu fforddio biliau cynyddol,” meddai.
“Mewn ardaloedd gwledig fel yr un dw i’n ei chynrychioli, mae’r Ceidwadwyr wedi sarhau trigolion yn barod drwy gynnig £100 pitw o gymorth i’r rhai sy’n ddibynnol ar olew i gynhesu.
“Yn ehangach, bydd cynllun Liz Truss i rewi biliai ynni dal yn golygu bod teuluoedd a phensiynwyr yn dioddef ac yn wynebu dewisiadau amhosib dros y gaeaf wrth i filiau ynni ddyblu, bron.
“Yn waeth na hynny, yn hytrach na thalu am ei rhaglen drwy osod treth ffawdelw (windfall tax) ar elwon anferthol cwmnïau olew a nwy mawr, mae’r Prif Weinidog yn bwriadu gwneud i’n plant a’n hwyrion a’n hwyresau dalu drwy fenthyg mwy.
“Dw i na phobol Cymru eisiau gweld toriadau anferth i drethi banciau mawr a chwmnïau fel Amazon, sydd ddim yn cael trafferth ymdopi, ond yn hytrach dw i’n credu ein bod ni eisiau help gwirioneddol sydd wedi’i dargedu at deuluoedd a busnesau bach – help fyddai’n cael ei ariannu drwy drethu elwon anferth cwmnïau ynni, sy’n gwneud arian ar hyn o bryd ar draul digalondid pobol.”
‘Pwy fydd yn talu?’
Yn ôl Jo Stevens, Aelod Seneddol Llafur Canol Caerdydd, mae Liz Truss yn ceisio gwneud i’r cyhoedd feddwl bod yr wythnos hon yn ddechreuad newydd.
“Ond y realiti yw mai Liz Truss, fel un o’r aelodau cabinet sydd wedi bod yn y llywodraeth am yr amser hiraf, yw saer methiannau’r Torïaid – methiannau sydd wedi bod yn effeithio ar aelwydydd a busnesau Cymru’n arw,” meddai.
“Ar ôl deuddeg mlynedd o fethiannau’r Torïaid, beth yw cynllun y Torïaid a phwy fydd yn talu?
“Rydyn ni’n gwybod yn barod ei bod hi wedi sgrifennu siec wag i’r cwmnïau olew a nwy mawr sy’n gwneud £170bn mewn elw, gan ddewis gwneud i bobol dros y Deyrnas Unedig dalu’r bil.”
‘Gwneud y rhai cyfoethog yn fwy cyfoethog eto’
Yn y cyfamser, mae Ben Lake, llefarydd trysorlys Plaid Cymru, yn dweud y bydd y cyhoeddiad yn gwneud y rhai cyfoethog yn fwy cyfoethog eto, ac mae’n galw am fynd i’r afael â’r argyfwng ac am “roi’r gorau i gylchredeg syniadau ffantasïol sydd wedi cael eu gwrthbrofi’n llwyr”.
Mae’n galw o’r newydd am ymestyn y taliadau costau byw i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd, a chynyddu’r taliadau i’r rheiny sy’n ddibynnol ar gynhesu olew ar gyfer ynni, ac mae hefyd yn galw am gronfa i gefnogi busnesau.
Mae’n dweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn benderfynol o “wneud y rhai cyfoethog yn fwy cyfoethog eto tra bod pawb arall yn gweld gwerth eu cyflogau’n gostwng a chostau’n cynyddu’n sylweddol”.
Mae’n dweud na fydd torri trethi’n arwain at dwf economaidd, ond yn hytrach fod angen buddsoddi mewn “isadeiledd corfforol a chysylltedd digidol”.
Mae’n galw am fesurau tymor hir megis rhaglen insiwleiddio o stryd i stryd, ac am roi’r pwerau ariannol i Gymru i “ddatgloi ein potensial economaidd”.
“Mae Liz Truss a Kwasi Kwarteng yn ymddangos fel pe baen nhw’n benderfynol o wneud y rhai cyfoethog iawn yn fwy cyfoethog eto, tra bod pawb arall yn gweld gwerth eu cyflogau’n gostwng a chostau’n cynyddu’n sylweddol,” meddai.
“Bydd y toriadau trethi sydd i’w cyhoeddi’n rhoi cyfran lawer mwy o incwm yn ôl i’r rheiny sydd ei angen leiaf – sy’n warthus yn y cyd-destun presennol.
“Mae angen i’r Canghellor ailfeddwl am ei ddulliau, a rhoi’r gorau i gylchredeg syniadau ffantasïol sydd wedi cael eu gwrthbrofi’n llwyr gan weddill y byd.
“Fe wnaeth yr Arlywydd Biden, hyd yn oed, ddatgan yn ddiweddar ei fod e ‘wedi syrffedu’ ag economeg sy’n rhaeadru i lawr – dydy e byth wedi llwyddo’.
“Does dim tystiolaeth y bydd y toriadau trethi hyn yn dod â thwf economaidd.
“Yr hyn sy’n sicr yw y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn talu’r ddyled Dorïaidd hon am ddegawdau i ddod.
“Yr hyn ddylen ni fod yn ei weld yw ymrwymiad llawer mwy eglur i warchod aelwydydd a busnesau rhag yr argyfwng ar hyn o bryd.
“Mae hyn yn galw am ymestyn y taliadau costau byw a’r taliadau i’r rheiny sy’n ddibynnol ar gynhesu olew a sicrhau y byddan nhw’n cael eu hymestyn y flwyddyn nesaf.
“Ymhellach, dylai’r Llywodraeth sefydlu cronfa ar unwaith ar gyfer busnesau bach y bydd y gefnogaeth bresennol yn annigonol iddyn nhw.
“Dylid cydnabod hefyd fod degawdau o lywodraethau San Steffan wedi tanfuddsoddi yng Nghymru.
“Mae’n bryd rhoi’r pwerau ariannol i Gymru sydd eu hangen arnom i ddatgloi ein potensial economaidd, gan ddechrau gyda buddsoddiad yn ein hisadeiledd corfforol a chysylltedd digidol, rhaglen insiwleiddio o stryd i stryd a chwyldro ynni adnewyddadwy.”