Mae ystadegau’r sensws diweddaraf yn dangos cynnydd yn nifer y bobol sy’n dweud eu bod nhw’n medru’r Wyddeleg.

Roedd cynnydd hefyd yn nifer y bobol a ddywedodd mai’r Wyddeleg yw eu “prif iaith”.

Mae’r mudiad iaith Conradh na Gaeilge wedi croesawu’r canfyddiadau, ac wedi dweud y gallai defnydd o’r iaith “gynyddu’n aruthruol” dros yr ugain mlynedd nesaf gyda chefnogaeth ac ymyrraeth gywir gan y wladwriaeth.

Yn ôl yr ystadegau a gafodd eu cyhoeddi heddiw (Medi 22):

  • Cynyddodd nifer y bobol sy’n medru’r Wyddeleg o 184,898 (10.65%) yn 2011 i 228,617 (12.45%) yn 2021, sef cynnydd o 23.6% dros y degawd.
  • Yn 2011, roedd 4,164 (0.24%) yn defnyddio’r Wyddeleg fel eu prif iaith, ond erbyn 2021 roedd y nifer hynny wedi cynyddu i 5,969 (0.32%) – cynnydd o 43%.

Am y tro cyntaf, gofynnwyd i bobol ‘Pa mor aml ydych chi’n siarad Gwyddeleg’, ond dydy canlyniadau’r cwestiwn hwnnw heb gael eu rhyddhau eto.

‘Gwaith arloesol’

Mae’r ystadegau’n “ganlyniad amlwg i’r gwaith arloesol sy’n digwydd ar hyd gymunedau dros y gogledd,” meddai llywydd Conradh na Gaeilge, Paula Melvin.

“O’n hysgolion Gwyddeleg, i’n grwpiau cymunedol a ieuenctid, i’n hathrawon, artistiad ac ein hymgyrchwyr, a llawer mwy, mae nifer y bobol sy’n uniaethu â’r iaith Wyddeleg, sy’n defnyddio’r iaith ac yn byw drwy gyfrwng y Wyddeleg yn cynyddu’n barhaus.

“Mae’r tueddiadau’n glir, ac mae defnydd o’r iaith Wyddeleg yn amlwg yn cynyddu ddegawd ar ôl degawd.

“Mae ein dyled yn fawr i bawb sy’n gweithio’n ddyddiol i hyrwyddo a rhannu’r iaith ag eraill.

“A thra bod yr ystadegau’n dangos ein bod ni’n symud yn y cyfeiriad cywir, rydyn ni’n ofnadwy o ymwybodol bod rhaid gwneud mwy i ddod â’r iaith i ddysgwyr newydd, ysgolion newydd a chymunedau newydd, a bod rhaid i’r wladwriaeth ei hun gamu fyny a chwarae rhan arweiniol yn yr adfywiad modern yma.”

‘Dal i aros’ am ddeddf iaith

Mae’r mudiad iaith yn galw am Strategaeth Iaith Wyddeleg er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr eto.

“Dros y degawd ddiwethaf mae 43,719 o bobol wedi uniaethu â’r iaith, gan olygu bod bron i chwarter miliwn o bobol yma’n medru’r Wyddeleg,” meddai Dr Pádraig Ó Tiarnaigh, Rheolwr Cyfathrebu Conradh na Gaeilge.

“Mae hynny’n llwyddiant rhagorol o ystyried yr sefyllfa gymdeithasol a gwleidyddol y mae’r gymuned Wyddeleg ei hiaith ynddi, nid yn unig nawr, ond ers creu’r dalaith ogleddol.

“Mae’r ffaith bod mwy a mwy, bron i 6,000 o bobol, 43% yn fwy nag yn 2011, yn defnyddio’r Wyddeleg fel prif iaith yn benawd yn ei hun o ystyried y prinder hawliau ac amddiffyniadau iaith yma.

“Mae’r cynnydd wedi digwydd heb ganllawiau na chefnogaeth strategol gan y wladwriaeth.

“Rydyn ni dal yn aros am ddeddfwriaeth iaith Wyddeleg newydd.

“Dro ar ôl tro rydyn ni wedi dweud wrth ein cynrychiolwyr gwleidyddol a chyrff gwladwriaethol y gallwn ddisgwyl gweld cynnydd anferth yn y ffigurau hyn ar y sensws yn y degawdau nesaf gyda chynllunio ac ymyraeth strategol, priodol, hirdymor, yn enwedig yn y sector cyfrwng Gwyddeleg.

“Dyma lle mae’n rhaid mynd nawr.”