Rhaid i Ganghellor y Deyrnas Unedig gynnig setliad ariannol sy’n gweithio i Gymru, meddai Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) Cymru.
Daw eu sylwadau cyn i’r Canghellor newydd, Kwasi Kwarteg, gyflwyno datganiad cyllidol fory (Medi 23).
Does dim lle i ‘economi diferu lawr’, sef theori economaidd sy’n golygu torri trethi cwmnïau mawr a’r cyfoethog yn y gobaith y bydd hynny’n arwain at welliannau i bawb arall, yn y ganrif hon, meddai TUC Cymru.
Mae Banc Lloegr wedi rhybuddio heddiw (Medi 22) ei bod hi’n bosib bod y Deyrnas Unedig mewn dirwasgiad yn barod, wrth i gyfraddau llog gyrraedd y lefel uchaf ers 14 mlynedd.
Mae’r Gyngres yn galw ar Lywodraeth San Steffan i gyhoeddi:
- Cyllid teg i Gymru – cyllid sy’n adlewyrchu’n iawn y pwysau y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn ei wynebu.
- Cynllun i gyflwyno codiad cyflog i bawb drwy godi’r isafswm cyflog a rhoi hawliau newydd i undebau osod isafswm cyflog.
- Cyllid teg ar gyfer buddsoddi cyfalaf yng Nghymru er mwyn adeiladu’r seilwaith gwyrdd, modern sydd ei angen ar y wlad i wella safonau byw.
- Cynllun i gyflwyno’r cynnydd mewn budd-daliadau yn unol â chwyddiant i sicrhau bod pobol yn cael yr arian sydd ei angen arnynt nawr yn hytrach nag aros tan fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
‘Cyfle euraidd’
“Datganiad cyllidol y Canghellor yw’r cyfle cyntaf a’r gorau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gywiro camgymeriadau’r ddegawd ddiwethaf,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj.
“Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi dioddef flwyddyn ar ôl blwyddyn o setliadau cyllid annigonol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac maen nhw’n wynebu heriau digynsail y gaeaf hwn.
“Mae gan y Prif Weinidog a’r Canghellor gyfle euraidd yr wythnos hon i newid cwrs a dechrau adfer y difrod a wnaed gan lymder a chwyddiant.
“Mae Banc Lloegr yn rhagweld pum chwarter o ddirwasgiad gan ddechrau ddiwedd eleni, a chynnydd mawr mewn diweithdra.
“Does dim lle i economi diferu i lawr, sy’n rhoi buddiannau’r cyfoethog yn gyntaf, yn yr 21ain ganrif.
“Mae’r dull hen ffasiwn hwn o feddwl wedi methu dro ar ôl tro.
“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddysgu’r gwersi yn dilyn argyfwng 2008 ble bu degawd o dorri’n ôl yng ngwariant y Llywodraeth, gan gynnwys toriadau mewn treth gorfforaeth, sydd wedi arwain at dwf gwan, a chyflogau’n wastad.”