Dylai Llywodraeth Cymru wahardd landlordiaid rhag troi tenantiaid allan o’u tai dros y gaeaf hwn, meddai un elusen.
Yn ôl Shelter Cymru, mae angen pecyn o fesurau sydd yn cyd-fynd â graddfa’r argyfwng sy’n wynebu’r wlad ar hyn o bryd.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru wahardd landlordiaid rhag troi tenantiaid allan yn ystod y pandemig.
Cafodd y mater ei godi gan Blaid Cymru yn y Senedd ddoe, ond fe wnaeth Llywodraeth Cymru bleidleisio yn erbyn cynnig.
Roedd y cynnig gan Blaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau ehangach i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, gan gynnwys ailgyflwyno mesurau i wahardd landlordiaid rhag troi tenantiaid allan o’u tai yn ystod y gaeaf, rhewi rhent, gosod cap ar brisiau bysus a threnau, ac ehangu’r cynllun prydau ysgol am ddim i gynnwys plant ysgolion uwchradd.
‘Pryder mawr’
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru weithredu â phendantrwydd i gefnogi tenantiaid a mynd i’r afael â digartrefedd yn ystod y pandemig, meddai Shelter Cymru.
“Fe wnaeth y gwaharddiad ar droi pobol allan weithio’n dda yn ystod y pandemig fel mesur brys.
“Hefyd, mae hi’n werth nodi bod gwledydd fel Ffrainc yn gwahardd troi pobol allan bob gaeaf er mwyn stopio pobol rhag dod yn ddigartref yn ystod y tywydd oer.
“Rydyn ni’n gweld digartrefedd ar lefel heb ei debyg yng Nghymru yn barod, sydd wedi arwain at bwysau mawr ar letyau dros dro.
“Mae gennym ni bryder mawr y gallai mwy o denantiaid gael eu troi allan a ffeindio’u hunain yn ddigartref yn ystod y gaeaf. Dyma rywbeth dydy’r un ohonom ni am ei weld.
“Mae rhent wedi bod yn cynyddu ar raddfa frawychus yng Nghymru, yn gyflymach nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig tu allan i Lundain.
“Byddai rhewi rent yn cael effaith byrdymor cadarnhaol ar denantiaid sy’n wynebu caledi.
“Ond rhaid meddwl tu hwnt i’r byrdymor, bydd yr argyfwng costau byw dal efo ni yn y gwanwyn ac mae gennym ni argyfwng costau tai ers tro yng Nghymru.
“Felly, rydyn ni angen gweithredu ar unwaith nawr fel bod tenantiaid yn gallu fforddio eu cartrefi ac rydyn ni angen i Lywodraeth Cymru edrych ar y dystiolaeth o’r Alban a thu hwnt er mwyn penderfynu ar y camau gorau i’w cymryd fel bod pobol yn gallu aros yn eu cartrefi flwyddyn nesaf ac wedi hynny.”
‘Defnyddio pob grym’
Mae’r rhent cyfartalog yng Nghymru bellach yn £882 y mis, sydd yn gynnydd o 14% ers y llynedd.
“Fe wnaeth Plaid Cymru alw am hyn yn y Senedd mewn nifer o ddadleuon a chwestiynau’r wythnos hon, ond fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod gwrando,” meddai’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru Sioned Williams.
“Rhaid i ni ddefnyddio bob grym yn ein meddiant yng Nghymru i warchod pobol rhag cyni.
“Rhaid gweithredu nawr!”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.