Mae UNSAIN wedi rhybuddio bod yna “argyfwng gwirioneddol ym maes gofal”.
Daw hyn wrth i’r undeb, sy’n cynrychioli degau o filoedd o weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru, groesawu’r cyhoeddiad Sylfeini Cyflog Byw heddiw (Medi 22) sy’n golygu codiad cyflog o £9.90 i £10.90 yr awr.
Mae gweithwyr gofal yng Nghymru wedi dweud wrth UNSAIN fod y codiad cyflog diweddaraf yn hanfodol i roi bwyd ar y bwrdd a chadw goleuadau a gwres ymlaen yn y gaeaf.
Ym mis Ebrill 2022 fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynyddu’r cyllid i’r Comisiynwyr Gofal i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal.
Ond, yn ôl arolwg gan UNSAIN, roedd 49% o’r gweithwyr gofal a atebodd y cwestiynau’n yn dweud eu bod nhw’n ystyried gadael y sector gofal, gan grybwyll cyflogau gwael, a thelerau, amodau a thriniaeth wael.
“Argyfwng gwirioneddol”
Dywedodd Peter Garland, cadeirydd fforwm gofal cymdeithasol UNISON Cymru/Cymru: “Hyd yn oed gyda’r Cyflog Byw Gwirioneddol o £9.90 yr awr rydym yn gwybod bod darparwyr yn cael trafferth recriwtio a chadw gweithwyr gofal.
“Mae hynny’n golygu bod argyfwng gwirioneddol ym maes gofal.
“Ym mis Ebrill, roedd y Cyflog Byw Gwirioneddol yn gam gwych ymlaen, ond mae’n debyg nad oedd yn ddigon uchel hyd yn oed bryd hynny.
“Gyda chwyddiant o gwmpas 10% ers y gwanwyn, rydyn ni’n gweld rhai gweithwyr gofal pryderus iawn wrth i’r gaeaf agosáu.
“Rydyn ni’n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi dechrau’r daith i fynd i’r afael â phroblemau endemig hirdymor.
“Ac rydyn ni’n deall y pwysau sy’n wynebu Llywodraeth Cymru gyda chyllid annigonol gan San Steffan, ond rydyn ni’n galw arnyn nhw i ddod â chyflog gweithwyr gofal i’r gyfradd newydd cyn gynted ag y gallan nhw a chyn i’r gaeaf daro.”