Mae Ysgrifennydd Busnes ac Ynni San Steffan wedi awgrymu na fydd y newidiadau i reolau ffracio yn Lloegr yn effeithio ar y gwaharddiad yng Nghymru.
Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gadarnhau heddiw (Medi 22) bod ffracio am gael ei ganiatáu eto yn Lloegr.
Wrth amddiffyn y penderfyniad, dywedodd Jacob Rees-Mogg, yr Ysgrifennydd Busnes ac Ynni, bod effaith ymosodiad Vladimir Putin ar Wcráin yn golygu bod rhaid amddiffyn cyflenwadau ynni domestig.
Cafodd ffracio ei wahardd yng Nghymru yn 2015, ac mae Mark Drakeford wedi dweud na fyddai’n ystyried codi’r gwaharddiad hwnnw.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, dywedodd Jacob Rees-Mogg nad yw’n “trio amharu ar y setliad datganoli”.
‘Adnabod cost ffracio’
Daeth yr ateb wedi i Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams, ofyn am sicrwydd na fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn trio dadwneud y gwaharddiad yng Nghymru.
“Yng Nghymru, rydyn ni’n adnabod cost echdynnu tanwydd ffosil peryglus fel bod eraill yn gallu elwa o bell,” meddai.
“Mae’n arbennig o ingol heddiw, ar union ddyddiad trychineb Gresffordd, pan gafodd 266 o ddynion a bechgyn eu lladd.
“Cafodd 200 o fenywod eu gadael yn weddw. Cafodd 800 o blant eu gadael heb dadau.
“Fe wnaeth y pwll glo, a oedd yn eiddo i San Steffan a’r United Group, ddinistrio’u cofnodion diogelwch wedyn.
“A wneith yr Ysgrifennydd Gwladol gadarnhau y bydd pwerau trwyddedu ar gyfer ffracio’n aros gydag ein Senedd, ac nad yw’r bwriadu trio dod â’r pwerau hynny’n ôl i San Steffan?”
‘Trychineb y gellid ei osgoi’
Trychineb Gresffordd ger Wrecsam yn 1934 oedd y trychineb glofaol gwaethaf yng Nghymru ar ôl Trychineb Senghennydd.
“Mae’n atgoffa rhywun o hanes glofaol gogledd ddwyrain Cymru, oedd yn ymestyn o’r Parlwr Du lawr i’r Parc Du yn y Waun,” meddai Carrie Harper, cynghorydd Plaid Cymru dros ward Queensway ar Gyngor Wrecsam.
“Roedd nifer o’r rhai gafodd eu dal yn y ffrwydrad wedi newid shifftiau er mwyn mynd i wylio [tîm pêl-droed] Wrecsam yn chwarae’r prynhawn hwnnw.
“Dyna’r rheswm pam fod gan y cit presennol ‘1934’ wedi’i bwytho ar y crys, mae ein clwb cymunedol yn cofio.
“Ond mae’n cael ei gofio hefyd oherwydd bod hwn yn drychineb y gellid bod wedi’i osgoi.
“Fe wnaeth ymchwiliad cyhoeddus ddarganfod bod methiannau yn systemau diogelwch y perchnogion preifat a rheolaeth wael wedi cyfrannu tuag at y trychineb.
“Gwaethygwyd pethau gan y penderfyniad i gau’r siafftiau gafodd eu difrodi yn barhaol, gan olygu mai dim ond cyrff 11 o’r rhai fuodd farw gafodd eu codi oddi yno. Mae’r gweddill dal yn gorwedd 700 medr dan ddaear.
“Fyddan ni byth yn anghofio aberth glowyr Cymru ac ar y diwrnod hwn rydyn ni’n cofio’r 266 dyn a bachgen fu farw yng Ngresffordd gyda thristwch a balchder.”