Mae nifer y bobol sydd ar restr aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cynyddu 100,000 mewn blwyddyn.
Yn ôl rhybuddion Archwilydd Cyffredinol Cymru, gallai gymryd saith mlynedd i glirio’r ôl-groniad.
Dangosa’r ystadegau diweddaraf ar gyfer mis Gorffennaf 2022 bod mwy o bobol nag erioed ar restrau aros, gyda 743,229 o bobol yn disgwyl am driniaethau.
Roedd hynny’n gynnydd o’r 644,463 oedd yn aros yn ystod mis Gorffennaf 2021, ac erbyn hyn, mae 60,557 o bobol yn aros am driniaeth ers dros ddwy flynedd.
3,000 o bobol sy’n aros ers dros ddwy flynedd yn Lloegr a’r Alban.
Ynghyd â hynny, mae’r ystadegau yn dangos bod 33% o gleifion wedi gorfod aros dros y targed o bedair awr i gael eu gweld mewn adrannau brys fis diwethaf.
50.7% o ambiwlansys wnaeth gyrraedd galwadau lle’r oedd bywyd mewn perygl o fewn y targed o wyth munud yn ystod mis Awst.
Cymerodd hi dros awr i 59% o ambiwlansys gyrraedd galwadau oren, sy’n cynnwys achosion o stroc, a buodd un ddynes 91 oed ym Mwrdd Iechyd Betsi yn aros mewn ambiwlans am 21 awr cyn cael ei derbyn i ysbyty.
‘Fawr o strategaeth’
Wrth ymateb i’r “amseroedd aros eithriadol”, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig nad oes gan Lywodraeth Cymru “fawr o strategaeth” i fynd i’r afael â nhw.
“Doedd y datganiad ar bwysau’r gaeaf gan y Gweinidog yr wythnos hon ddim yn cynnwys cynllun,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Yn ogystal, gallwn edrych ar Loegr a gweld hybiau meddygol, system fodern ac effeithlon yn dechnolegol, a chynllun newydd i sicrhau bod pobol yn gallu gweld meddyg teulu o fewn pythefnos, ac mae’r rhai sy’n perfformio’n wael yn cael eu henwi.
“Mae cleifion a staff Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn haeddu system iechyd sydd o leiaf mor dda â phob man arall yn y Deyrnas Unedig.”
‘Newid agwedd’
Mae Plaid Cymru wedi galw am weithredu ar unwaith i gynyddu capasiti’r Gwasanaeth Iechyd a gwella llif cleifion drwy’r system.
“Mae’n rhaid i hynny olygu newid agweddau – a chyllid gan y Llywodraeth – er mwyn cymryd mesurau i atal [problemau] iechyd,” meddai llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Wrth ymateb i adroddiadau gan y BBC bod cleifion yn talu am lawdriniaethau dramor yn hytrach nag aros am rai yng Nghymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oes rhyfedd bod pobol yn chwilio am ddatrysiadau dramor gan fod y rhestrau mor hir.
“Prif egwyddor y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw y dylai “gofal iechyd da fod ar gael i bawb, waeth beth fo’u cyfoeth”, ac eto un o oblygiadau’r rhestrau aros cynyddol yw creu system gofal iechyd â thair haen iddi – y rhai sy’n gallu fforddio gofal iechyd preifat o’r dechrau, y rhai sydd â’r gallu i dalu ar ôl aros am rhy hir, a phawb arall.”
‘Angen cynllun gweithredu ar frys’
Rhaid cael cynllun gweithredu ar gyfer y gaeaf ar frys, meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
“Mae’n amlwg bod y gwasanaeth yn ei chael hi’n anodd ymdopi nawr, cyn i’r gaeaf ddechrau hyd yn oed,” meddai arweinydd y blaid, Jane Dodds.
“Er ein bod ni’n deall bod yna ôl-groniad anferth ar ôl Covid, dydy hynny ddim yn esgus i Gymru wneud yn waeth na Lloegr a’r Alban yn gyson.
“Dim bai staff anhygoel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ydy dim o hyn. Bydd edrych ar ôl y staff yn cyfrannu tuag at ostwng amseroedd aros.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig eisiau gweld staff yn cael eu recriwtio a’u hailhyfforddi drwy raglen Atal Blinder fyddai’n cynnig sicrwydd o wyliau blynyddol, tâl uwch, a gwell amodau.”
‘Gwelliannau yn parhau’
Ond, yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, mae gwelliannau yn parhau a nifer fawr o bobol yn cael triniaethau.
“Mae nifer y llwybrau gydag amseroedd aros o fwy na dwy flynedd wedi lleihau am y pedwerydd mis yn olynol, gan leihau 14% ers yr oedd ar ei uchaf ym mis Mawrth,” meddai.
“Ym mis Gorffennaf, caewyd ychydig dros 87,000 o lwybrau cleifion, sy’n gynnydd sylweddol o gyfnod cynnar y pandemig a 10% yn uwch nag yn ystod yr un mis yn 2021.
“Mae gwasanaethau a staff gofal argyfwng yn parhau i fod o dan bwysau ac nid yw perfformiad ar hyn o bryd ar y lefel rydyn ni, y byrddau iechyd na’r cyhoedd yn dymuno iddo fod.
“Fodd bynnag, mae’n galonogol gweld lleihad o 16% mewn derbyniadau argyfwng i’r ysbyty yng Nghymru o gymharu â mis Awst 2021.
“Mae ein buddsoddiad mewn gwasanaethau Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod yn helpu i gefnogi’r lleihad hwn a gwella canlyniadau i gleifion.
“Gwelwyd gwelliant hefyd yn yr amseroedd ymateb i alwadau oren (canolrifol) a oedd bron i 23 munud yn gyflymach nag ym mis Gorffennaf.
“Rydym yn parhau i roi blaenoriaeth i wella’r broses o gynllunio i ryddhau a chynyddu’r capasiti cymunedol cyn cyfnod y gaeaf.”