Mae adroddiad newydd yn awgrymu bod cefnogaeth tuag at annibyniaeth i’r Alban, a chefnogaeth yng Ngogledd Iwerddon tuag at ailuno Iwerddon ar eu huchaf erioed.

Dywedodd yr Athro Syr John Curtice bod cyhoeddiad diweddaraf arolwg Agweddau Cymdeithasol Prydain yn dangos bod Brexit wedi creu rhaniadau rhwng llywodraethu’r Deyrnas Unedig.

Dangosodd arolwg Agweddau Cymdeithasol Prydain, sydd yn ei 39ain rhifyn, bod y gefnogaeth i fod yn rhan o’r Deyrnas Unedig yng Ngogledd Iwerddon wedi gostwng i 49%, tra bod cefnogaeth yng Ngogledd Iwerddon i ailuno Iwerddon wedi cynyddu o 14% yn 2015 i 30%.

Yn y cyfamser, mae 52% yn yr Alban yn ffafrio annibyniaeth.

Mae hynny’n gynnydd o’r 23% oedd yn cefnogi annibyniaeth yn 2012, pan gytunodd llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r refferendwm ar annibyniaeth, a gafodd ei gynnal ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Daeth yr adroddiad i’r canlyniad bod Brexit wedi chwarae rhan wrth newid agweddau tuag at y cyfansoddiad, gyda rhai pleidleiswyr Aros yn ymateb i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fodd bynnag, ni wnaeth yr adroddiad edrych ar y posibilrwydd o annibyniaeth i Gymru.