Mae doctoriaid plant wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldebau iechyd ymysg plant a phobol ifanc.

Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu eu strategaeth ar gyfer lleihau tlodi plant, meddai’r Coleg Brenhinol ar gyfer Iechyd Plant a Phediatreg.

Dylid ehangu’r Cynllun Plant a Phobol Ifanc hefyd fel ei fod yn cynnwys strategaeth iechyd a llesiant plant a fyddai’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac effaith tlodi plant, meddai’r meddygon.

Mae’r Coleg Brenhinol wedi cyhoeddi adnoddau newydd i helpu meddygon plant i gefnogi teuluoedd sy’n dioddef yn sgil effeithiau tlodi, anghydraddoldebau a chyflogau isel heddiw (Medi 22).

‘Haeddu gwell’

Yn ôl arolwg diweddar, dywedodd 60% o feddygon plant dros y Deyrnas Unedig eu bod nhw’n credu bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith ar iechyd a llesiant plant a phobol ifanc yn barod.

Roedd canlyniadau’r arolwg yn dangos bod doctoriaid plant yn gweld cynnydd mewn pryderon iechyd meddwl, a chynnydd yn nifer y teuluoedd sy’n methu cyrraedd apwyntiadau meddygol yn sgil costau teithio cynyddol.

Pan ofynnodd y Coleg Brenhinol wrth ddoctoriaid plant am yr argyfwng costau byw, dywedodd un: “Dw i wedi gweld teuluoedd â phlant ifanc sy’n dweud nad oes ganddyn nhw wres yn sgil costau uchel.”

Dywedodd un arall: “Mae’r [argyfwng costau byw] wedi cyfyngu ar allu rhai rhieni i weld eu plant difrifol wael yn yr Uned Gofal Dwys oherwydd mae’n rhaid iddyn nhw weithio. Mae hyn yn dorcalonnus ac yn anghywir. Mae’r rheini a’r plant yn haeddu gwell cefnogaeth.”

Ac meddai un meddyg: “Dw i’n arbenigwr ar alergeddau, mae nifer o fy nghleifion yn byw mewn tai tamp, ansawdd isel sy’n effeithio eu hasthma / alergeddau rhinitis yn uniongyrchol. Mae teuluoedd sy’n defnyddio banciau bwyd yn cael trafferth cael bwyd diogel i blant a phobol ifanc sydd â sawl alergedd bwyd – felly mae rhieni’n cyfyngu ar eu bwyd eu hunain i brynu bwyd i’w plant.”

‘Annerbyniol’

Cymru sydd â’r gyfradd tlodi plant waethaf yn y Deyrnas Unedig, 31%, ac mae’r lefelau hynny yn “annerbyniol”, meddai Dr David Tuthill, Swyddog y Coleg Brenhinol ar gyfer Iechyd Plant a Phediatreg yng Nghymru.

“Wrth i ni nesáu at aeaf anodd, dw i’n poeni’n ofnadwy am y plant hyn a’u teuluoedd,” meddai.

“Dw i’n meddwl y bydd yr adnoddau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn caniatáu i ddoctoriaid plant fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldebau iechyd ble gallan nhw, ond mae angen mwy o gefnogaeth er mwyn gwarchod plant sy’n agored i niwed.

“All doctoriaid plant ddim gwneud hynny ar eu pennau eu hunain.

“Mae hi’n amser i Lywodraeth Cymru gydnabod ein cyfraddau tlodi plant eithriadol o uchel, adolygu’r rhaglenni sy’n bodoli’n barod a chyhoeddi Strategaeth ddiwygiedig er mwyn lleihau tlodi plant.

“Dylai’r Strategaeth gynnwys targedau cenedlaethol i ostwng cyfraddau tlodi plant a thargedau penodol ar gyfer anghydraddoldebau iechyd ar gyfer meysydd fel iechyd plant, a dylid cael atebolrwydd clir gan y Llywodraeth.”

‘Amhosib methu’r anghydraddoldebau’

Mae Llywydd y Coleg Brenhinol ar gyfer Iechyd Plant a Phediatreg wedi galw ar Liz Truss, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i roi plant wrth wraidd eu holl bolisïau, hefyd.

“I ddoctoriaid plant, mae’n amhosib methu anghydraddoldebau iechyd plant,” meddai Dr Camilla Kingdon.

“Mae e yn yr asthma sydd ddim yn clirio yn sgil tai ansawdd gwael, ansawdd y bwyd neu ddiffyg bwyd, dannedd gwael, neu bwysau geni isel.

“Mae’r materion yn effeithio ar blant drwy gydol eu bywydau ac yn arwain at anghydraddoldebau annerbyniol pellach.

“Rhaid gweithredu ar unwaith.”

San Steffan â’r “sbardunau allweddol”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu, gyda’r pwerau sydd ganddyn nhw, i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a “gwella canlyniadau ar gyfer holl blant Cymru fel eu bod yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn tyfu i fyny i gyflawni eu potensial”.

“Fodd bynnag, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â’r sbardunau allweddol ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant – pwerau dros y system dreth a lles,” meddai.

“Mae pandemig Covid a’r argyfwng costau byw wedi cael effaith enfawr ar bobl sy’n byw mewn tlodi a’r rhai sy’n agos at y llinell dlodi.

“Ers mis Tachwedd 2021, rydym wedi darparu mwy na £380m mewn cyllid ychwanegol i gefnogi aelwydydd sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng. Mae 93% o’r aelwydydd cymwys yng Nghymru eisoes wedi cael eu taliad costau byw o £150.

“Mae ein Strategaeth Tlodi Plant yn datgan ein hamcanion ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant drwy ganolbwyntio ar yr hyn sy’n gweithio’n dda, gan ddefnyddio’r sbardunau sydd ar gael i ni.

“Mae Gweinidogion wedi ymrwymo i’w hadnewyddu yng ngoleuni’r effaith y mae pandemig Covid, y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a’r argyfwng costau byw yn ei chael ar dlodi.”