Cafodd bron i hanner yr ymgeiswyr yn etholiadau lleol mis Mai yng Nghymru eu cam-drin, neu eu bygwth, yn ôl adroddiadau’r Comisiwn Etholiadol.

Mae’r adroddiadau yn edrych ar yr etholiadau gafodd eu cynnal ar draws y Deyrnas Unedig ym mis Mai.

Mae’r canfyddiadau’n datgelu bod pedwar o bob 10 ymgeisydd wedi dweud eu bod wedi cael problemau gydag ymddygiad bygythiol mewn etholiadau yng Nghymru.

Aelodau o’r cyhoedd neu ffynonellau anhysbys oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r cam-drin – oedd un ai yn eiriol neu’n digwydd ar-lein.

“Mae angen gweithredu ar frys i atal cam-drin a bygwth ymgeiswyr ac ymgyrchwyr mewn etholiadau,” meddai Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil y Comisiwn Etholiadol, Craig Westwood.

“Mae’n hanfodol bod ymgeiswyr yn gallu cymryd rhan mewn etholiadau heb ofn.

“Bydd y Comisiwn yn gweithio gyda llywodraethau a’r gymuned etholiadol ehangach i wneud yn siŵr ein bod yn deall yr hyn sy’n gyrru’r mater hwn, ac yn mynd i’r afael â’r mater hwn ar frys.”

Daw hyn ar ôl i’r cynghorydd Beca Brown gael ei “thargedu mewn modd annerbyniol” yn ol Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon.

Cafodd yr heddlu eu galw ddiwedd mis Awst ar ôl i brotestwyr darfu ar gyfarfod y Cyngor wrth iddyn nhw drafod Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru.

Targedu cynghorydd yn “annerbyniol”, medd Aelod o’r Senedd

Mae Siân Gwenllian wedi datgan ei chefnogaeth i Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg