Mae Siân Gwenllian wedi datgan ei chefnogaeth i Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg, Beca Brown, yn dilyn ymgyrch wedi’i thargedu yn ei herbyn.

Daeth y datganiad o gefnogaeth gan Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, ar ôl iddi ofyn am ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles ynghylch cyflwyno’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru.

Cyfeiriodd yn benodol at Beca Brown, Cynghorydd Sir Gwynedd dros ward Llanrug ac Aelod Cabinet Addysg Gwynedd, yn dilyn galwad i’r heddlu ddiwedd mis Awst ar ôl i brotestwyr darfu ar gyfarfod y Cyngor.

Dywed Siân Gwenllian fod Beca Brown wedi cael ei “thargedu mewn modd annerbyniol”.

‘Newyddion ffug’

“Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogol i’r newidiadau hyn, ond rydan ni hefyd yn ymwybodol bod newyddion ffug yn cael ei ledaenu, a bod protestiadau ar sail camwybodaeth wedi cael eu cynnal, yn cynnwys yng Nghaernarfon o fewn fy etholaeth i,” meddai Siân Gwenllian yn y Senedd.

“Mae Aelod Cabinet Addysg Gwynedd, Beca Brown wedi cael ei thargedu mewn modd annerbyniol – ac rwy’n sefyll gyda hi.

“Hoffwn i’r Gweinidog egluro beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i atal lledaenu newyddion ffug sydd yn arwain at ymddygiad amhriodol gan rai o fewn cymdeithas.”