Fe wnaeth un ym mhob pum person a fethodd â chael apwyntiad deintydd gyda’r Gwasanaeth Iechyd dros y flwyddyn ddiwethaf droi at ‘ddeintyddiaeth DIY’, yn ôl arolwg newydd.

Mae ‘deintyddiaeth DIY’ yn cyfeirio at bobol sy’n gwneud gwaith deintyddol eu hunain neu’n gofyn i rywun arall sydd ddim yn ddeintydd eu helpu.

Yn ôl y pôl piniwn, a gafodd ei gomisiynu gan y Democratiaid Rhyddfrydol, fe wnaeth 22% o bobol Cymru geisio cael apwyntiad gydag un o ddeintyddion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn lleol y llynedd, ac wedi methu.

O blith y rhai a geisiodd a methu, mae 31% yn dweud eu bod nhw wedi stopio ceisio cael apwyntiad, 27% eu bod nhw wedi talu am driniaeth breifat, a 26% yn dweud eu bod nhw wedi oedi cyn gweld deintydd er eu bod nhw mewn poen.

Rhwng 2019-20 a 2020-21, gostyngodd nifer y deintyddion oedd yn gweld cleifion ar y Gwasanaeth Iechyd gan 5.6% yng Nghymru.

‘Sgandal genedlaethol’

Rhaid achub y Gwasanaeth Iechyd Gwladol nawr rhag gaeaf o argyfwng a fydd yn peryglu cleifion, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae’r cynnydd torcalonnus hwn mewn deintyddiaeth DIY yn dystiolaeth bellach nad yw’r Llywodraeth yn poeni am wasanaethau iechyd lleol hanfodol,” meddai Jane Dodds.

“Mae hi’n sgandal genedlaethol bod pobol yn cael eu gorfodi i dynnu eu dannedd eu hunain oherwydd bod ein gwasanaethau iechyd cyhoeddus wedi cael eu hamddifadu rhag cael cyllid.

“Dyma effaith blynyddoedd o fethiannau a chamreoli gan Lafur Cymru. Does dim rhyfedd bod yna broblemau mawr a bod Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi dweud nad yw cynlluniau Llafur yn cwrdd ag anghenion deintyddol y boblogaeth.

“Dylai gofal deintyddol fod ar gael i bawb, nid y rhai sy’n gallu fforddio talu’n breifat yn unig, ond yn anffodus rydyn ni’n gweld rhaniad gwirioneddol rhwng y rhai sy’n gallu fforddio i fynd yn breifat a’r rhai sydd ddim yn gallu.

“Dylai pawb allu dibynnu ar ofal deintyddol sydyn a dibynadwy yn agos at adref. Rhaid i Lywodraeth Cymru recriwtio mwy o staff.

“Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried cynyddu nifer y therapyddion deintyddol a’r nyrsys sydd ar gael hefyd, ynghyd â gadael i therapyddion deintyddol wneud mwy, er mwyn mynd i’r afael â’r ôl-groniad mewn pobol sy’n aros am driniaeth.”