Ers i golwg360 dorri’r stori fod rhaglen Geraint Lloyd yn dod i ben ar Radio Cymru, adeg Steddfod Tregaron yn wythnos gyntaf mis Awst, mae penaethiaid yr orsaf genedlaethol wedi wynebu beirniadaeth a deisebu… a’r Sadwrn yma fe fydd yna brotest yn Aberystwyth yn galw am gadw’r rhaglen.

Daeth i’r fei bod rhaglen Stiwdio yn dod i ben hefyd – penderfyniad wnaeth ennyn ymateb chwyrn   gan bobol Y Pethe a pherchnogion siopau sy’n gwerthu llyfrau Cymraeg. Stiwdio oedd y brif raglen fu yn trafod llyfrau Cymraeg ar Radio Cymru.

Yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg mae Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru yn ymateb i’r beirniaid.

Yn ei lythyr mae Dafydd Meredydd yn dweud bod Radio Cymru yn gorfod ymdopi gyda “thoriad real yn y gyllideb o ystyried graddfa uchel chwyddiant”, ac felly “yn gorfod edrych o’r newydd ar ei hallbwn a sicrhau y gwerth gorau am arian i’n cynulleidfa”.

Mae yn sôn hefyd am yr angen “i bob rhan o’n hamserlen ddenu’r gynulleidfa fwyaf posibl”.

“Celfyddydau a chefn gwlad wrth galon Radio Cymru”

Er bod rhaglen gelfyddydau Stiwdio ac arlwy cefn gwladaidd Geraint Lloyd yn diflannu, mae Dafydd Meredydd yn mynnu na fydd y meysydd hyn yn cael eu hesgeuluso.

“Mae’r celfyddydau a chefn gwlad wrth galon Radio Cymru a does dim dwywaith fod yr orsaf yn gyfan gwbl ymroddedig i roi sylw haeddiannol iddynt,” meddai yn ei lythyr, cyn awgrymu yn gryf y bydd yna raglen gelfyddydau newydd yn gweld golau dydd ar Radio Cymru.

“Rydym hefyd yn datblygu nifer o syniadau ar hyn o bryd, gan gynnwys rhaglen ac iddi fformat newydd gan adlewyrchu’r celfyddydau ac elfennau eraill o’n diwylliant. Ein gobaith yw darlledu’r rhaglen yn yr oriau brig ar Radio Cymru. Mewn geiriau eraill, ni fydd llai o sylw i’r celfyddydau ar Radio Cymru a’n gobaith yw denu cynulleidfa fwy i’r materion yma.”

Ac mae yn dadlau na fydd y gynulleidfa wledig, amaethyddol yn cael ei hesgeuluso yn dilyn ymadawiad Geraint Lloyd.

“[Mae] bywyd cefn gwlad… eisoes yn cael ei adlewyrchu ar raglenni fel Troi’r Tir, Bore Cothi, Ifan Evans, Galwad Cynnar a’r Bwletin Amaeth dyddiol. Bu’n rhaglenni yn darlledu o Sioe Môn, Sioe Dinbych a Fflint a Sioe Meirionydd eleni, yn ogystal â Sioe Fawr Llanelwedd. Byddwn yn parhau i drafod materion sy’n effeithio’r cefn gwlad ar ein rhaglenni newyddion yn ogystal ag archwilio pob cyfle i ehangu’r ddarpariaeth yma ar ystod o raglenni yn y dyfodol.”

Llythyr Dafydd Meredydd yn llawn yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg

Bron i 1,800 o lofnodion erbyn hyn ar ddeiseb i achub rhaglen Geraint Lloyd

Daeth y newyddion yn gynharach y mis hwn y bydd ei raglen yn dod i ben ar ôl 25 mlynedd o ddarlledu ar Radio Cymru

Beirniadu penderfyniad “gwarthus” Radio Cymru i ddod â rhaglen Stiwdio i ben

Cadi Dafydd

“Siom o’r mwyaf ydi cael ar ddeall fod Radio Cymru am ddileu’r unig raglen sydd wedi’i neilltuo ar gyfer trafod y celfyddydau yng Nghymru”