Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd prydau ysgol am ddim yn parhau i gael eu darparu i blant o deuluoedd incwm isel yng Nghymru yn ystod gwyliau’r ysgol.

Bydd y trefniant hwn yn parhau tan hanner tymor mis Chwefror 2023.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd £11m yn cael ei ddarparu er mwyn ariannu’r cymorth hwn, sy’n rhan o’r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Cafodd prydau ysgol am ddim i deuluoedd cymwys yn ystod gwyliau’r ysgol eu cyflwyno yng Nghymru ym mis Ebrill 2020.

Ac mae prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu i ddosbarthiadau cyfan o blant cynradd yng Nghymru o’r tymor hwn, fel rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i’r holl blant cynradd yng Nghymru erbyn 2024.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am sut i weinyddu’r ddarpariaeth prydau am ddim, naill ai drwy greu ciniawau neu ddarparu talebau neu daliadau uniongyrchol i deuluoedd.

‘Cefnogi teuluoedd’

“Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall gwyliau ysgol fod i deuluoedd, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

“Fel llywodraeth, rydym yn defnyddio pob adnodd sydd ar gael i ni i gefnogi teuluoedd sydd ei angen fwyaf.

“Yn ystod y pandemig, arweiniodd Cymru’r ffordd drwy fod y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i darparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol, gyda chefnogaeth buddsoddiad o dros £100 miliwn hyd yma.

“Gall darparu prydau bwyd yn ystod gwyliau’r ysgol wneud byd o wahaniaeth i deuluoedd sydd angen cefnogaeth ychwanegol, yn enwedig wrth i’r gaeaf agosáu.

“Rwy’n falch ein bod yn gallu ymestyn y gefnogaeth hon, wrth i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ysgafnhau’r baich i deuluoedd trwy’r argyfwng costau byw.”

‘Yr argyfwng costau byw yn gwaethygu’

Dywedodd Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru: “Mae’r argyfwng costau byw yn gwaethygu, ac mae teuluoedd yn poeni’n fawr am yr wythnosau a’r misoedd i ddod.

“Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i gefnogi teuluoedd ar hyn o bryd, yn enwedig y rhai y mae costau cynyddol yn effeithio fwyaf difrifol arnynt.

“Yn ogystal â’n hymrwymiad ar y cyd i sicrhau bod pob plentyn cynradd yn cael pryd ysgol am ddim, bydd y cymorth estynedig yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd incwm isel yn ystod gwyliau’r ysgol.

“Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cynnig cefnogaeth sy’n fawr ei angen i deuluoedd er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.”