Mae angen i Blaid Cymru “berswadio pobol ei bod hi’n blaid sydd â’r polisïau, y syniadau a’r gallu i fynd i’r afael â’r argyfyngau rydyn ni’n eu hwynebu”, yn ôl Leanne Wood, cyn-arweinydd y blaid.
Daw hyn yn dilyn cyfnod cythryblus i Blaid Cymru wrth i’r ffrae ynglŷn â Jonathan Edwards achosi cryn anghydfod ymhlith rhengoedd y blaid.
Cyhoeddodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr fis diwethaf na fyddai’n ailymuno â Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, ddwy flynedd ar ôl cael rhybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig.
Fe wnaeth Adam Price, sy’n cynrychioli’r un etholaeth yn Senedd Cymru, gyhoeddi datganiad yr un diwrnod yn dweud nad yw gweithredoedd Jonathan Edwards “yn cynrychioli ein gwerthoedd ac mae ei safle fel Aelod Seneddol yn anfon y neges anghywir at oroeswyr cam-drin domestig”.
Yn wreiddiol, dywedodd Plaid Cymru wrth Jonathan Edwards y byddai’n cael ei groesawu’n ôl i’r gorlan – penderfyniad wnaeth arwain at feirniadaeth gref.
Fodd bynnag, mae’r ferch gyntaf i arwain Plaid Cymru, a hynny rhwng 2012 a 2018, yn credu bod angen i’r Blaid “ffocysu nawr ar y materion sy’n bwysig i bobol”.
“Sialensiau gwleidyddol”
“Dw i’n meddwl bod yna sialensiau gwleidyddol dwys yn ein hwynebu fel gwlad ar hyn o bryd, does dim amheuaeth ein bod ni’n byw drwy gyfnod anodd dros ben,” meddai wrth golwg360.
“Mae angen ffocysu nawr ar y materion sy’n bwysig i bobol megis yr argyfwng costau byw, costau ynni, costau bwyd.
“Felly mae’n rhaid i Blaid Cymru berswadio pobol ei bod hi’n blaid sydd â’r polisïau, y syniadau a’r gallu i fynd i’r afael â’r argyfyngau rydyn ni’n eu hwynebu.
“Ac yn y tymor hir mae’n rhaid dangos bod gennym ni’r gallu i newid hanfodion yr economi fel ein bod ni ddim yn glanio mewn ffasiwn lanast yn y dyfodol.
“Dw i’n credu bod angen i fwy o ymdrech fynd tuag at hynny nawr.”
‘Angen arweinyddiaeth gref’
Ydi Leanne Wood yn ffyddiog bod gan Adam Price ac arweinyddiaeth Plaid Cymru’r gallu i gyflawni’r hyn mae hi’n alw amdano?
“Wel oes, mae’n rhaid iddyn nhw,” meddai.
“Mae pobol wir angen arweinyddiaeth wleidyddol gref nawr.
“Rydyn ni’n wynebu argyfyngau lu wrth i ni baratoi at y gaeaf hwn.
“Does gan Blaid Cymru ddim dewis ond bod yna a cheisio ymateb i anghenion pobol.”
“Annibyniaeth yn agor posibiliadau”
Fodd bynnag yn y bôn, yr hyn mae Leanne Wood yn credu sydd ei angen er mwyn gallu mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Cymru yw annibyniaeth.
“Y rheswm yr hoffwn i weld Cymru annibynnol yw fel ein bod ni’n gallu gwneud newidiadau i’n cymdeithas a gwella pethau i bobol mewn ffordd nad yw’n bosib o dan y setliad presennol,” meddai.
“Er enghraifft mae traean plant y wlad yma yn byw mewn tlodi, a does gan ein sefydliadau gwladol ddim y gallu i wyrdroi’r economi.
“Felly’r oll all ein Senedd ei wneud yw delio gyda symptomau dadfeiliad economaidd y wlad, heb fod â’r gallu i newid y sylfeini y mae’r dadfeiliad economaidd yna wedi’i adeiladu.
“Mae annibyniaeth yn agor posibiliadau a chyfleoedd sydd ddim yn bodoli ar hyn o bryd.”