Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd yn gosod cap ar filiau ynni busnesau, elusennau a sefydliadau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, o 1 Hydref.

O dan y cynllun fe fyddan nhw’n cael cymorth am chwe mis i’w hamddiffyn rhag y cynnydd sylweddol mewn biliau ynni dros y gaeaf. Fe fydd rhagor o gymorth yn cael ei roi i gwmnïau mewn diwydiannau bregus ar ôl hynny.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes Jacob Rees-Mogg, fe fydd yn haneru biliau ynni dros y gaeaf. Mae’r cap yn golygu y bydd prisiau trydan ar gyfer busnesau yn dal i fod bron yn ddwbl yr hyn oedd yn Hydref 2021, ond tua hanner yr hyn mae disgwyl iddyn nhw ei dalu dros y gaeaf.

Mae’r cynllun yn cyfyngu’r pris gall gyflenwyr ei godi i gwsmeriaid am unedau o nwy a thrydan. Does dim rhaid i fusnesau wneud dim ynglŷn â hyn gan fod y gostyngiad yn cael ei wneud yn uniongyrchol.

“Rhy hwyr”

Ond mae’r gwrthbleidiau wedi beirniadu’r cymorth. Yn ôl y Blaid Lafur mae’r cymorth wedi dod yn rhy hwyr, ac mae’n dweud bod y blaid wedi bod yn galw am gymorth ers dechrau’r flwyddyn.

“Hyd yn oed rŵan mae yna gwestiynau o hyd am faint fydd hyn yn costio a pwy fydd yn talu amdano,” meddai ysgrifennydd busnes Llafur Jonathan Reynolds.

Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol mai dim ond gwelliant dros dro yw hyn a’i fod yn rhy hwyr i nifer o fusnesau bach sydd eisoes wedi mynd i’r wal, ac yn ôl y Blaid Werdd fe ddylai  Jacob Rees-Mogg fod wedi canolbwyntio mwy ar effeithlonrwydd ynni.

“Yr ynni rhataf a glanaf i fusnesau yw’r ynni nad ydynt yn ei ddefnyddio – felly pam nad yw cynllun Rees-Mogg yn cynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni hanfodol i helpu busnesau i leihau eu dibyniaeth ar danwydd ffosil costus, lleihau biliau ac allyriadau carbon ar yr un pryd?”, meddai Caroline Lucas AS y Blaid Werdd.

“Dim ond seibiant dros dro”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: “Bydd y cyhoeddiad heddiw yn lleddfu rhywfaint ar y pwysau sydd ar fusnesau a dw i am bwyso ar Lywodraeth y DU i basio’r ddeddfwriaeth angenrheidiol yn gyflym fel bod y gostyngiadau llawn yn cael eu trosglwyddo i gwsmeriaid annomestig, a hynny heb unrhyw oedi.

“Er ein bod yn croesawu’r cymorth hwn, efallai na fydd yn ddigon i lawer o fusnesau bach a chanolig Cymru sy’n wynebu biliau ynni a fydd hyd at chwe gwaith yn uwch nag ar hyn o bryd. Mae cyfran uchel o’r busnesau hyn yn ei chael yn anodd eisoes i gadw’u pennau uwchlaw’r dŵr ar ôl y pandemig.

“Busnesau bach Cymru yw asgwrn cefn ein cymunedau, gan ddarparu swyddi ac incwm hanfodol i bobl leol, ac maen nhw’n rhan o’n heconomi sylfaenol. Os bydd y busnesau hyn yn methu, byddwn yn gweld mwy o ddiweithdra, mwy o bobl agored i niwed, a tharfu ar gadwyni cyflenwi pwysig.

“Dim ond seibiant dros dro mae’r mesurau’n eu rhoi i fusnesau a fawr ddim sicrwydd i’w helpu i gynllunio ymlaen llaw. Bydd nifer ohonyn nhw’n gorfod cau os nad ydyn nhw’n cael digon o gefnogaeth. Dw i’n galw, felly, ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i gynllun mwy hirdymor i roi mwy o sicrwydd er mwyn i fusnesau fedru ymdopi â chostau ynni sy’n gyson uchel.

“Rydyn ni’n craffu’n agos ar y cymorth a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth y DU i weld a oes mwy gallwn ni ei wneud i gefnogi busnesau Cymru. Mae hynny’n cynnwys edrych ar ffyrdd o helpu busnesau i leihau’u defnydd o ynni neu i fod yn fwy effeithlon o ran ynni.”