Mae Cyngor Môn wedi croesawu’r newyddion fod y gweithredwr porthladdoedd a fferi, Stena Line, wedi prynu hen safle mwyndoddi Alwminiwm Môn, sydd wedi’i lleoli ar gyrion Caergybi.

Yn ôl dirprwy arweinydd Cyngor Môn a’r deilydd portffolio Datblygu Economaidd, Carwyn Jones, bydd y pryniant yn rhoi “hwb sylweddol” i Gaergybi, Ynys Môn ac i economi Cymru yn gyffredinol.

Mae’r safle ger yr A55 yng Nghaergybi ac mae’n cynnwys 3 cilomedr o drac rheilffordd sy’n cysylltu â phrif linell gogledd Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’r tir wedi’i ddynodi ar gyfer defnydd diwydiannol ac mae wedi’i leoli yn y Parth Menter leol.

“Ffyniant economaidd”

“Yn barod, mae Stena Line yn gyflogwr pwysig a thymor hir yn lleol,” meddai Carwyn Jones.

“Mae o wedi bod yn bartner allweddol a chredadwy, gan weithio gyda’r Cyngor Sir ar nifer o brosiectau economaidd allweddol dros nifer o flynyddoedd.

“Mae’r pryniant yn fuddsoddiad sylweddol i Stena Line ac mae hefyd yn cynnwys y lanfa fawr ym Mhorthladd Caergybi a fydd yn cael ei marchnata unwaith eto yn awr fel angorfa dŵr dwfn ar gyfer llongau mordaith.

“Mae gennym berthynas weithio dda gyda Stena Line ac rydw i’n edrych ymlaen at glywed mwy am eu cynlluniau ar gyfer y safle yn y dyfodol.

“Yn sicr, mae prynu’r safle cyflogaeth strategol hwn yn rhoi gobaith newydd am ffyniant economaidd pellach yng Nghaergybi, Ynys Môn a’r rhanbarth ehangach.”

“Buddsoddiad sylweddol”

Dywedodd Ian Hampton, Cyfarwyddwr Gweithredol, Stena Line: “Mae’r pryniant hwn yn fuddsoddiad sylweddol i ni ac mae’n rhan bwysig o’n strategaeth hir dymor ar gyfer dyfodol Porthladd Caergybi.

“Mae gan ein cynlluniau ar gyfer y safle botensial i roi hwb sylweddol i economi’r rhanbarth a swyddi lleol.

“Caergybi yw’r porthladd mwyaf rydym ni’n berchen arno ac mae’n parhau i fod yr ail borthladd gyrru mewn ac allan prysuraf yn y Deyrnas Unedig, a dyma’r prif lwybr i Iwerddon hefyd.

“Gallai’r fargen hon ei wneud hyd yn oed yn fwy a sicrhau ei fod yn chwarae rôl bwysicach fyth wrth ddod â buddsoddiad a swyddi ychwanegol i Gaergybi.

“Mae’n arwydd o’n hymrwymiad i’r Rhanbarth lleol, economi Cymru yn gyffredinol, ac yn bwysicach fyth, ein cydweithwyr lawer sy’n cael eu cyflogi yma gennym.”