Mae’n “destun pryder” gweld cyfradd cyflogaeth menywod yng Nghymru yn gostwng, medd elusen sy’n cwffio anghyfartaledd rhywedd.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, roedd 678,300 o fenywod mewn gwaith yng Nghymru rhwng Mai a Gorffennaf 2022, oedd yn ostyngiad o 29,100 (4.1%) ers yr un cyfnod llynedd.
Golyga hynny bod 67.7% o fenywod rhwng 16 a 64 oed mewn gwaith, y gyfradd gyflogaeth isaf ers y cyfnod rhwng mis Hydref a Rhagfyr 2015.
Mae hynny’n ostyngiad o 3.4% o gymharu â’r ganran ar gyfer yr un cyfnod llynedd, meddai ymchwil diweddaraf y Swyddfa Ystadegau ar y Farchnad Lafur yng Nghymru.
O gymharu, roedd cynnydd o 0.8% yn nifer y menywod sydd mewn gwaith dros y Deyrnas Unedig.
Yn draddodiadol, mae cyfraddau cyflogaeth wedi bod yn uwch ymhlith dynion na menywod yng Nghymru, yn bennaf oherwydd bod menywod yn fwy tebygol o fod â chyfrifoldebau gofal llawn amser, medd y Swyddfa Ystadegau.
Fe wnaeth y bwlch mewn cyflogaeth leihau yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig, ond mae’r bwlch wedi ehangu ers hynny.
Rhwng Mai a Gorffennaf 2022, roedd 76.4% o ddynion rhwng 16 a 64 oed Cymru mewn gwaith, oedd yn ostyngiad o 1.5% ers yr un cyfnod â llynedd.
‘Effaith anghymesur’ yr argyfwng costau byw
Wrth ymateb, dywedodd Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil Chwarae Teg, elusen sy’n ymgyrchu dros gyfartaledd rhwng y rhywiau yng Nghymru, bod angen monitro’r ffigurau yn agos.
“Mae’n destun pryder gweld cyfradd cyflogaeth menywod yng Nghymru yn gostwng, yn enwedig o gymharu â ffigurau’r Deyrnas Unedig a chyfradd cyflogaeth dynion yng Nghymru,” meddai Natasha Davies wrth golwg360.
“Mae gennym fwlch parhaus ar sail rhywedd yng nghyfradd cyflogaeth menywod a dynion, sydd wedi’i wreiddio yn yr anghydbwysedd mewn cyfrifoldebau gofalu a welwn yn rhy gyffredin o hyd.
“Gyda’r argyfwng costau byw yn gwaethygu, rydym yn edrych ar effaith anghymesur debygol ar fenywod, sy’n cael eu gadael yn agored i argyfwng ar ôl argyfwng wrth i ni fethu â dileu anghydraddoldeb ar sail rhywedd.
“Gyda chostau gofal plant yn codi ochr yn ochr â chostau hanfodol eraill, tra bod tâl yn aros yr un fath i lawer, bydd gostyngiad yng nghyfran y menywod mewn cyflogaeth yn gadael mwy o aelwydydd mewn perygl o dlodi a chaledi ariannol.
“Bydd angen monitro’r ffigurau cyflogaeth hyn yn agos i benderfynu a yw hyn yn rhan o duedd tymor hir, a bydd angen cymryd camau i gefnogi menywod i gael gwaith, ac i aros mewn gwaith.
“Bydd cyflwyno’r cynllun i ehangu gofal plant am ddim yn gyflymach, cymorth cyflogadwyedd wedi’i dargedu i fenywod a chymorth gyda chostau byw i gyd yn hanfodol.”
‘Siomedig ofnadwy’
72% oedd cyfradd gyflogaeth Cymru ym mis Gorffennaf, sef gostyngiad o 2.4% ers yr un adeg y llynedd.
Mae’r ystadegau’n “siomedig ofnadwy”, meddai llefarydd yr economi’r Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, “yn enwedig o ran menywod ac o ystyried nad yw’r Deyrnas Unedig yn gweld yr un gostyngiad”.
“Yn hytrach na chynnal economi Cymru’n ofalus, mae Llafur canolbwyntio’n llwyr ar faterion cyfansoddiadol, ehangu’r Senedd ac ymgynghori ar ffyrdd newydd i’n trethu ni i ebargofiant.
“Fe ddylai [Llywodraeth Cymru] ganolbwyntio ar greu mwy o swyddi i ddynion a menywod Cymru, yn hytrach na chreu mwy o swyddi i wleidyddion ym Mae Caerdydd.”
‘Gweithio’n galed’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gweithio’n galed i greu Cymru fwy cyfartal a llewyrchus, “lle mae gan ferched gyfle i gyrraedd eu llawn botensial ac i chwarae eu rhan lawn yn ein heconomi a’n cymdeithas”.
“Mae cyfradd ddiweithdra gyffredinol Cymru yn is na chyfradd y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd – gwrthdroi tueddiadau cyn datganoli.
“Rydyn ni’n creu economi lle mae mwy o bobl yn teimlo’n hyderus ynghylch cynllunio eu dyfodol yng Nghymru.
“Rydyn ni’n cefnogi busnesau i greu mwy o swyddi, bod yn fwy hyblyg a darparu cyfleoedd sy’n talu’n well i weithwyr.
“Mae ein Cenhadaeth Economaidd wedi’i chysegru i ddefnyddio’r ysgogiadau sydd gennym i leihau’r rhaniad sgiliau, cefnogi swyddi gwell a mynd i’r afael â thlodi.
“Rydym wedi ymrwymo i wella cyfranogiad a dilyniant menywod yn y farchnad lafur ac i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
“Rydym yn parhau i flaenoriaethu’r rhai sydd fwyaf angen help – cefnogi’r rhai sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur i ddod o hyd i waith, fel rhan o weithredu beiddgar i adeiladu economi gryfach, tecach, gwyrddach a mwy llewyrchus.”