Mae ymgynghoriad wedi cael ei lansio heddiw (Medi 20) er mwyn i bobol gael dweud eu dweud ar gynigion i roi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno treth newydd ar ymwelwyr.
Tâl bach i’w dalu gan bobol sy’n aros dros nos mewn llety yng Nghymru fyddai’r ardoll, meddai Llywodraeth Cymru.
Dan y cynlluniau arfaethedig, byddai gan bob awdurdod lleol bŵer i benderfynu a ydyn nhw am gyflwyno’r dreth ai peidio, a byddai’r arian sy’n cael ei godi’n cael ei ail-fuddsoddi yn lleol i gefnogi twristiaeth leol.
Gallai hynny amrywio o fuddsoddi mewn cadw’r traethau a’r palmentydd yn lân, i wario ar gynnal parciau, toiledau a llwybrau lleol.
Mae dros 40 o wledydd a chyrchfannau gwyliau ledled y byd wedi cyflwyno math o ardoll ymwelwyr, gan gynnwys Gwlad Groeg, Ffrainc, Amsterdam a Chaliffornia.
Drwy’r ymgynghoriad, mae’n bosib rhannu safbwyntiau ynghylch pwy ddylai dalu’r ardoll, pwy fyddai’n codi’r ardoll ac yn ei gasglu, y dull gorau o’i weithredu, a sut y gellid dyrannu’r refeniw o’r dreth.
‘Paratoi ar y dyfodol’
Diben y cynigion yw paratoi ar gyfer y dyfodol, meddai Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru.
“Ein bwriad yw ennyn ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd ymysg preswylwyr ac ymwelwyr dros warchod ein hardaloedd lleol a buddsoddi ynddyn nhw,” meddai.
“Drwy ofyn i ymwelwyr – p’un a ydyn nhw wedi teithio o fannau eraill yng Nghymru neu o bellach draw – i wneud cyfraniad bach tuag at gynnal a gwella’r ardal y maen nhw’n ymweld â hi, byddwn yn annog dull mwy cynaliadwy o weithredu ar gyfer twristiaeth.”
‘Twristiaeth gynaliadwy’
Mae’r cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, a dywedodd Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, eu bod nhw am barhau i weld diwydiant twristiaeth ffyniannus yng Nghymru, ond ei bod hi’n hanfodol ei fod yn ddiwydiant cynaliadwy.
“Er y gall Cymru fod y lle cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno ardoll o’r fath, nid Cymru fydd yr olaf i wneud hynny, yn ein barn ni.
“Fel y gwelsom yn ddiweddar, mae’n bosibl y bydd ardoll ymwelwyr yn cael ei gyflwyno yng Nghaeredin cyn bo hir, felly nid yw Cymru ar ei phen ei hun yn hyn o beth.
“Rydym am barhau i weld diwydiant twristiaeth ffyniannus yng Nghymru.
“Mae’n hanfodol bod gennym dwristiaeth gynaliadwy a chyfrifol sy’n gweithio i ymwelwyr a’r cymunedau y maen nhw’n ymweld â nhw fel ei gilydd.
“Pe bai awdurdodau lleol yn penderfynu gweithredu ardoll ymwelwyr, fe allai hynny wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau ledled Cymru o ran helpu i ddatblygu gwasanaethau a seilwaith lleol, a’u gwarchod.
“Rydym yn croesawu pob safbwynt er mwyn deall beth fyddai’n gweithio’n dda i Gymru, ac rydym yn annog pawb i gyfrannu i’r ymgynghoriad.”
‘Nodwedd gyffredin’
Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y gallai’r ardoll sicrhau bod cymunedau a seilwaith twristiaeth yn cael eu hariannu’n briodol.
“Mae Cymru yn adnabyddus ledled y byd fel cyrchfan gwych i ymweld â hi, ond mae’n bwysig sicrhau bod twristiaeth yn gynaliadwy a’i bod yn elwa ar ddigon o fuddsoddi er mwyn gallu ei mwynhau yn y dyfodol,” meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan.
“O dan y cynigion hyn, byddai gan gynghorau ddisgresiwn i osod yr ardoll fel bod eu cymunedau a’r seilwaith twristiaeth yn cael eu hariannu’n briodol.
“Mae ardollau yn nodwedd gyffredin ar gyrchfannau twristiaid yn rhyngwladol, ac mae’r ymgynghoriad sydd i ddod yn gyfle pwysig i breswylwyr a busnesau gael dweud eu dweud am y ffordd ymlaen.”
‘Peryglu bywoliaethau’
Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu’r cynlluniau, ac yn dweud bod eu hamcangyfrifon yn awgrymu y gallai teulu sydd ar wyliau yng Nghymru orfod talu £75 yn ychwanegol.
“Bydd y polisi hwn yn peryglu bywoliaethau gan fod un ymhob saith swydd, 200,000 swydd, yn dibynnu ar y diwydiant twristiaeth,” meddai llefarydd twristiaeth y blaid, Tom Giffard.
“Yn fwy na hynny, does yna ddim sicrwydd y byddai’r dreth hon yn creu unrhyw welliannau i gynigion twristiaeth mewn cymunedau lleol, ac mae’n debyg y bydd yr arian yn mynd i goffrau’r cynghorau.”