Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau i weithredu ar yr argyfwng costau byw.

Cyn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (Medi 20), mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi galw ar Mark Drakeford i haneru prisiau trenau a gosod cap ar brisiau bws.

Maen nhw hefyd am i Lywodraeth Cymru rewi rhenti ac ymestyn y cynllun prydau ysgol am ddim i gynnwys disgyblion uwchradd.

Dim ond y cam cyntaf ydy sicrhau prydau am ddim ar gyfer ysgolion cynradd, meddai Adam Price.

Ym mis Awst eleni, awgrymwyd y gallai’r cap ar brisiau ynni godi i £4,266 o fis Ionawr 2023, sy’n gynnydd o 200% ers gaeaf 2021.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi cyhoeddi pecyn o fesurau i helpu i amddiffyn pobol rhag y gwaethaf, gan gynnwys rhewi rhenti i denantiaid cymdeithasol a phreifat tan ddiwedd mis Mawrth 2023.

‘Dinistriol’

Bydd yr argyfwng costau byw yn argyfwng “ar raddfa fwy dinistriol nag y gall y rhan fwyaf ohonom byth gofio”, meddai Adam Price.

“Bydd pobl yn colli eu bywoliaeth os nad eu bywydau,” meddai arweinydd Plaid Cymru.

“Dyna pam ei bod yn hollbwysig bod Llywodraeth Lafur Cymru yn defnyddio pob darn o rym sydd ar gael iddynt i liniaru effaith biliau ynni cynyddol a safonau byw sy’n gostwng.

“Dylai hyn gynnwys gwaharddiad ar droi allan ar unwaith, haneru prisiau trenau a gosod cap ar brisiau bws tan o leiaf Mawrth 2023, ymestyn prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol uwchradd, a rhewi rhenti y mae Llafur yn yr Alban wedi bod yn ymgyrchu amdano.

“Bydd methu â gwneud hynny yn cynrychioli dirywiad dyletswydd gan Lafur yng Nghymru i wneud y mwyaf o fanteision datganoli.

“Mae neges Plaid Cymru i Lywodraeth Lafur Cymru yn glir – mae gennych chi’r pwerau i weithredu ar yr argyfwng costau byw, defnyddiwch nhw.”

‘Gaeaf anodd iawn’

Wrth roi diweddariad ar yr argyfwng costau byw yn y Senedd heddiw (Medi 20), dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Eleni, byddan ni’n gwario £1.6bn ar raglenni sydd wedi’u targedu er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw ac ar raglenni fydd yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobol.

“Rhaglenni fel y Rhaglen Gostwng Treth Cyngor, presgripsiynau am ddim, Lwfans Cynhaliaeth Addysg, teithiau bws am ddim i bobol dros 60 oed, brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd, y rhaglenni mwyaf hael i gefnogi myfyrwyr, ariannu gofal plant a helpu teuluoedd gyda chostau’r diwrnod ysgol.

“Dros yr hydref, bydd ein holl ymdrechion yn canolbwyntio ar wneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobol drwy’r argyfwng hwn.

“Mae pwyllgor costau byw newydd wedi cael ei sefydlu er mwyn ymgymryd â’r gwaith.

“Yn gynharach y mis hwn, fe wnaethon ni ddechrau rhoi prydau am ddim mewn ysgolion cynradd.

“Wythnos nesaf, byddan ni’n ailagor ceisiadau ar gyfer ein Taliad Cefnogaeth Ynni’r Gaeaf, a bydd ar gael i 400,000 o bobol ychwanegol.

“Wrth i ni ddechrau ar aeaf anodd iawn, mae’n hanfodol bod pob rhan o’r sector gyhoeddus yn chwarae eu rhan i sicrhau bod pobol yn gallu elwa o’r rhaglenni hyn.”