Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn pwyso ar fanc Barclays i gynnig sicrwydd ynghylch eu peiriant twll yn y wal yn Nolgellau, yn dilyn y penderfyniad i gau’r gangen yn yr hydref.

Mae aelodau etholedig Dwyfor Meirionnydd yn galw ar y banc i sicrhau trefniadau bancio amgen digonol i gwsmeriaid ffyddlon, yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Gorffennaf y bydd y gangen yn cau am y tro olaf ar Hydref 27, gan adael cylchdaith o 70 milltir i’r gangen agosaf.

Mae modd llofnodi deiseb sydd wedi’i sefydlu, yma: https://www.dwyformeirionnydd.cymru/achub_banc

“O ystyried bod Barclays wedi gwneud y penderfyniad amhoblogaidd i gau eu cangen yn Nolgellau, yng ngwyneb gwrthwynebiad gan y gymuned leol, mae bellach yn ddyletswydd arnynt i wneud popeth o fewn eu gallu i wneud yn iawn am eu gweithredoedd,” meddai’r Aelod Seneddol ac Aelod o’r Senedd mewn datganiad ar y cyd.

“Mewn tref farchnad fawr sy’n gwasanaethu poblogaeth wasgaredig, wledig sy’n dibynnu ar Barclays ar gyfer trafodion personol a busnes – mae’n gwbl hanfodol bod pobol yn gallu codi arian parod yn ôl eu hwylustod.

“Rydym felly’n galw ar Barclays i weithio gydag eraill i gadw peiriant ATM yn Nolgellau a sicrhau bod dulliau bancio amgen digonol yn cael eu rhoi ar waith i ddiwallu anghenion cwsmeriaid lleol.

“Mae’n ddyletswydd ar fanciau i gydymffurfio â chanllawiau a gyflwynwyd gan Gymdeithas Bancio Prydain sy’n galw ar fanciau i sicrhau bod mesurau digonol yn eu lle i liniaru effeithiau cau canghennau yn ein trefi.

“Mae gormod o drefi gwledig yn troi’n anialwch ariannol, lle mae cael gafael ar arian parod yn prysur ddod yn foethusrwydd. Gyda mwy a mwy o fanciau’n cefnu ar ein cymunedau – y lleiaf y mae pobol yn ei haeddu yw’r gallu i godi arian parod yn ôl eu hwylustod.’

“Rydym yn annog ein hetholwyr i gefnogi’r ddeiseb hon ac anfon neges glir at Barclays bod mynediad at arian parod yn wirioneddol bwysig.”

Beirniadu Barclays am adael Dolgellau – a galw am beiriannau twll yn y wal i’r dref

Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts yn cyhuddo banciau’r stryd fawr o anwybyddu anghenion yr etholaeth