Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor wedi cyhuddo banciau’r stryd fawr o “anwybyddu anghenion yr etholaeth”, yn dilyn cyhoeddiad gan Barclays eu bod nhw am gau cangen arall yn Nolgellau – wythnos yn unig ar ôl i Lloyds gyhoeddi bod eu cangen ym Mhwllheli am gau ei drysau.
Mae disgwyl i Barclays yn Llys Owain Dolgellau gau ar Hydref 27, a dim ond un banc fydd ar ôl yn y dref wedyn.
Mewn llythyr, mae Barclays yn cynghori cwsmeriaid i ddefnyddio canghennau eraill, ond Aberystwyth yw’r un agosaf, 34 milltir i ffwrdd. Mae cangen Pwllheli 38 milltir i ffwrdd.
Daw hyn dair blynedd ar ôl i Barclays gau eu cangen yn Nhywyn, gan adael y dref heb fanc.
‘Ardaloedd gwledig yn arbennig sy’n wynebu’r baich’
Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol, a Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd yr etholaeth wedi ymateb i’r cyhoeddiad mewn datganiad ar y cyd.
“Rydym yn hynod siomedig fod Barclays yn cau banc arall yn Nwyfor Meirionnydd, wythnos yn unig ar ôl i Lloyds gyhoeddi eu bod yn cau cangen Pwllheli a thair blynedd ers iddynt gefnu ar Dywyn – gan adael y dref heb fanc,” meddai’r ddau.
“Dyma’r rownd ddiweddaraf o gau banciau i daro cymunedau yng Nghymru ac mae’n ymddangos mai ardaloedd gwledig yn arbennig sy’n wynebu’r baich o golli gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb ar y stryd fawr.
“Mae Dwyfor Meirionnydd i bob pwrpas yn cael ei anwybyddu gan y banciau mawr hyn sydd wedi cefnu ar eu cyfrifoldeb cymdeithasol i gwsmeriaid ffyddlon.
“Mae Dolgellau yn dref farchnad sylweddol ei maint sy’n gwasanaethu poblogaeth wledig wasgaredig sy’n dibynnu ar Barclays ar gyfer trafodion personol a busnes.
“Nid yw’n dderbyniol i fanciau barhau â’r myth y dylai pob cwsmer symud i fancio ar-lein oherwydd gwyddom nad oes gan bawb fynediad at gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy ac mae rhai pobol oedrannus yn amharod i ddefnyddio e-fancio, ac eto yn amlwg mae angen mynediad at wasanaethau arnynt o hyd.
“Rydym yn annog Barclays i ail feddwl ond gan eu bod yn debygol iawn o fwrw ymlaen i gau’r gangen, rhaid iddynt gydymffurfio’n llawn â chanllawiau y Gymdeithas Bancio Prydeinig sy’n galw ar fanciau i sicrhau bod mesurau digonol yn eu lle i liniaru effeithiau cau canghennau o’r fath.
“Mae hyn yn cynnwys darparu mynediad i beiriannau ATM – mae’r tri sydd ar gael ar hyn o bryd yn Nolgellau yn gwbl annigonol ar gyfer tref fawr.
“Os yw’r banciau mawr hyn yn awyddus i gefnu ar ein cymunedau y lleiaf y gallant ei wneud yw darparu trefniadau bancio cyfleus, amgen i’w cwsmeriaid ffyddlon.”