Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Drefaldwyn wedi mynegi ei “siom eithriadol” ynghylch cynlluniau banc Barclays i gau dwy gangen yn y Trallwng a’r Drenewydd.

Mae Craig Williams yn ceisio sicrwydd ynghylch dyfodol gwasanaethau i gwsmeriaid yn y ddwy dref yn sgil y newyddion.

Daw hyn ar ôl i’r cwmni gyhoeddi y bydd y ddwy gangen yn cau ar Fedi 16 a 23 eleni, a hynny o ganlyniad i gwymp yn nifer y cwsmeriaid sy’n gwneud trafodion banc yno.

“Bydd y penderfyniad hwn yn golygu na fydd gan Barclays ôl troed corfforol yn Sir Drefaldwyn bellach, sy’n ergyd enfawr i staff a chwsmeriaid yn y ddwy gangen, yn ogystal â’r etholaeth gyfan,” meddai Craig Williams.

“Tra fy mod i’n derbyn fod nifer y trafodion banc yn y gangen wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwasanaethau dros y cownter yn hanfodol bwysig i gwsmeriaid y mae’n well ganddyn nhw beidio bancio ar-lein, neu sy’n methu – yn enwedig mewn ardaloedd gwledig megis Sir Drefaldwyn.

“Dydy’r cyfleuster i ddefnyddio Swyddfa’r Post ar gyfer rhai gwasanaethau bancio ddim yn gwneud yn iawn yn llwyr am gau cangen leol sydd wedi’i phersonoleiddio.

“Dw i’n ceisio cyfarfod brys gyda chynrychiolwyr Barclays er mwyn trafod sut maen nhw’n bwriadu darparu gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid difreintiedig, ac i sicrhau mai parhau i ddarparu gwasanaethau personol ac wedi’u teilwra i’r sawl sydd heb fynediad at fancio ar-lein yw eu prif flaenoriaeth o hyd.”

‘Angen banciau’r stryd fawr o hyd’

“Dw i’n eithriadol o siomedig o glywed am gau banciau Barclays yn Sir Drefaldwyn, a byddaf yn cwestiynu’r data a gafodd ei ddarparu yn eu rhesymeg am gau’r banciau gan fy mod i’n gwybod fod nifer yn defnyddio’r ddau fanc,” meddai Russell George, yr Aelod o’r Senedd dros y sir.

“Tra bod banciau wedi cyfeirio at y defnydd o fancio ar-lein, mae cryn angen am bresenoldeb banciau’r stryd fawr o hyd.

“Nid yn unig y bydd cau cangen arall o fanc yn cael effaith andwyol ar staff a chwsmeriaid ffyddlon y banc, yn enwedig y sawl sy’n oedrannus a bregus, ond fe fydd yna oblygiadau hefyd i’r gymuned fusnes leol, i’r Trallwng a’r Drenewydd fel trefi a’r ardal ehangach, ac i enw da Barclays.”