Mae ymchwil newydd gan Gyfeillion y Ddaear, a gafodd ei gyhoeddi gan Awyr Iach Cymru ar Ddiwrnod Aer Glân (dydd Iau, Mehefin 16), yn dangos mai pobl ar yr incwm isaf yng Nghymru yw’r rhai sy’n anadlu’r aer mwyaf llygredig.

Gwelwyd hefyd bod ardaloedd sydd â phoblogaethau uwch o leiafrifoedd ethnig yn cael eu heffeithio 2.5 gwaith yn fwy gan lygredd aer.

Fe wnaeth 30 o Aelodau’r Senedd o bob plaid wleidyddol fynychu digwyddiad yn y Senedd ddydd Mawrth (Mehefin 14) i alw o’r newydd am gyflwyno deddfwriaeth aer glân a thargedau uchelgeisiol ar gyfer ansawdd yr aer.

Mae’r ymchwil hefyd yn datgelu bod aelwydydd yn yr ardaloedd â’r llygredd aer gwaethaf yn llai tebygol o fod yn berchen ar gar o gymharu â’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd â gwell ansawdd aer.

“Os yw Cymru am fod yn genedl deg a chyfiawn, yn ogystal â bod yn genedl werdd, rhaid inni weithredu nawr,” meddai Haf Elgar, is-gadeirydd Awyr Iach Cymru a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.

Plaid Cymru yn gwthio am newid

Daw hyn flwyddyn ar ôl i Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, a’i gyd-aelod o Blaid Cymru Delyth Jewell, yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru, osod datganiad barn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Aer Glân ar frys.

“Hoffwn ei gweld eleni yn natganiad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru fis nesaf,” meddai Rhys ab Owen wrth golwg360.

“Mae angen sicrhau ein bod ni’n annog pobol i ddefnyddio cerbydau allyriadau isel gyda phwyntiau gwefru cyflym i gymryd lle cerbydau sy’n fwy llygredig a sicrhau bod yna ddigon o fannau gwefru hygyrch ar gael; creu parthau aer glân mewn trefi a dinasoedd; a chaniatáu offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai.”

‘Sicrhau aer glan yn ein prifddinas’

Yn ôl yr ymchwil, Caerdydd yw’r awdurdod lleol sydd â’r nifer fwyaf o gymdogaethau llygredig.

“Nid yw record Cyngor Caerdydd yn dda – penderfynwyd ail-agor Heol y Castell yng nghanol Caerdydd i geir preifat flwyddyn ddiwethaf ar Ddiwrnod Aer Glân, ar ôl ei gau yn ystod y pandemig,” meddai Rhys ab Owen.

“Roedd Plaid Cymru yng Nghaerdydd wedi dechrau deiseb yn erbyn cau’r heol, ac rydw i wedi codi’r mater gyda’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

“Fel Aelod Senedd rhanbarthol ar gyfer Caerdydd, rydw i’n benderfynol o weithio gyda’n grŵp o gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd i sicrhau aer glan yn ein prifddinas i drigolion, ac er mwyn cenhedloedd y dyfodol.”

Mae Paula Dunster, sy’n fam ac yn dod o Gaerdydd, yn teimlo y dylai data llygredd aer fod yn fwy gweladwy mewn cymunedau fel y gall pobol wneud penderfyniadau addysgiadol ar deithio.

“Ar y ffordd i’r ysgol, mae’n rhaid i ni gerdded rhan o’r A48 ymlaen i Ffordd Llanedeyrn,” meddai.

“Mae’n hynod o brysur, ac mae’r ysgol yn agos iawn at y gylchfan.

“Rwy’n poeni am effeithiau llygredd aer, yn enwedig gan fod fy mhlant yn dal yn ifanc iawn.

“Rwy’n ymwneud yn weithredol â Rhwydwaith Gweithredu Hinsawdd y Mamau ond nid yw pawb yn ymwybodol o beryglon aer gwenwynig.

“Oni bai bod y data yn weladwy i bawb, mae’n hawdd anwybyddu llygredd aer.

“Un diwrnod, fe ddangoson ni i fam yn yr ysgol pa mor uchel oedd y llygredd aer, ac roedd hynny’n peri cymaint o bryder iddi, mae hi bellach yn cerdded i’r ysgol bob dydd.”