Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi arloesi â math newydd o driniaeth rithwir i bobol sydd ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD).
Mewn treialon clinigol ar raddfa fawr, fe wnaeth tîm ymchwil ddarganfod fod sesiynau therapi ar-lein dan arweiniad ar gyfer pobol â PTSD ysgafn i gymedrol yr un mor effeithiol â thriniaethau wyneb yn wyneb.
Mae’r tîm yn dweud bod y canlyniadau, a gafodd eu cyhoeddi ddoe (dydd Mercher, Mehefin 15) yn y British Medical Journal, yn golygu y dylai’r Gwasanaeth Iechyd ystyried y math hwn o therapi yn driniaeth rheng flaen i bobol sydd â’r cyflwr.
“Mae ein hymchwil wedi arloesi o ran math newydd o driniaeth ar gyfer PTSD, a gallai chwyldroi’r ffordd y mae’r GIG yn trin y cyflwr gwanychol hwn yn y dyfodol,” meddai’r Athro Jonathan Bisson o Ganolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, wrth golwg360.
Beth yw’r driniaeth?
Mae’n rhaglen hunangymorth dan arweiniad yn seiliedig ar y rhyngrwyd.
Mae’r unigolyn yn gweithio trwy wyth cam o driniaeth sy’n cynnwys cyflwyniad i PTSD, siarad am eu profiadau a’r hyn sy’n ddefnyddiol yn y cymorth maen nhw’n ei gael, ac awgrymiadau am bethau i’w gwneud i helpu.
“Yna rydym yn gweithio trwy raglen o ymyriadau sydd â thystiolaeth dda o helpu pobol sydd â PTSD,” meddai’r Athro Jonathan Bisson.
“Felly pethau fel seicoaddysg, technegau rheoli pryder, technegau sylfaenu.
“Rydym hefyd yn gofyn i’r unigolyn ysgrifennu stori fanwl o’r hyn maen nhw wedi bod drwyddo a darllen honno dro ar ôl tro, sy’n driniaeth eithaf sefydledig ar gyfer PTSD mewn modd rheoledig.
“Mae rhywfaint o waith hefyd sy’n helpu pobol i herio eu ffordd o feddwl.
“Er enghraifft, os yw pobol yn teimlo’n euog am rywbeth maen nhw wedi’i wneud neu efallai’n teimlo’n fwy euog nag y mae’r dystiolaeth yn awgrymu y dylen nhw deimlo, yna rydym yn defnyddio’r hyn a elwir yn Dechnegau Gwybyddol.
Canlyniadau’r treialon
Mae lle i gredu bod gan ryw 4% o oedolion yn y Deyrnas Unedig gyflwr PTSD.
Mae’r symptomau’n cynnwys ail-fyw’r trawma, osgoi’r hyn sy’n atgoffa rhywun ohono a bod ar bigau drain o hyd a theimlo gofid.
Daeth i’r amlwg yn yr hap-dreialon nad oedd gan dros 80% o’r bobol yn y ddau grŵp a gafodd eu cyfweld gyflwr PTSD ar ôl 16 wythnos.
“Canfu treial RAPID i asesu rhaglen Spring fod CBT dan arweiniad ar y rhyngrwyd yn glinigol effeithiol, yn rhatach, yn hyblyg a’r un mor effeithiol â thriniaethau wyneb yn wyneb,” meddai’r Athro Jonathan Bisson.
“Dylai’r canlyniadau gynnig rhagor o opsiynau o ran triniaeth i bobol â PTSD yn ogystal â gwella’r gofal maen nhw’n ei gael.”
Dywed Sarah, un a gymerodd ran mewn treial blaenorol ac sydd bellach yn ymchwilydd ac yn gyd-awdur yr astudiaeth hon, y gallai helpu llawer o bobol.
“Ar ôl imi ddioddef o PTSD, roedd yr hunangymorth dan arweiniad wedi fy helpu i adfer y bywyd roedd gen i gynt,” meddai.
“Roeddwn i’n teimlo cymaint yn well mewn cyfnod cymharol fyr o amser.”
Cynllun eisoes ar waith yng Nghymru
Dywed yr Athro Jonathan Bisson fod y cynllun bellach yn cael ei fabwysiadu dros Gymru.
Trwy fenter Straen Trawmatig Cymru, mae dros 50 o therapyddion yng Nghymru wedi cael eu hyfforddi erbyn hyn, yn ôl yr academydd sy’n gyfarwyddwr ar y fenter.
“Mae’n cael ei gyflwyno’n rheolaidd yng Nghymru ac rydym yn hyfforddi mwy dros yr ychydig fisoedd nesaf,” meddai.
“Bydd yn cymryd amser ond rwy’n gobeithio y daw’n driniaeth a ddarperir yn arferol.
“Rydym hefyd yn ei ddefnyddio mewn gwasanaeth o’r enw Canopy, sef gwasanaeth a gafodd ei sefydlu i gefnogi staff y Gwasanaeth Iechyd a staff sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru.”