Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ethol dynes i fod yn Gadeirydd am y tro cyntaf.

Cafodd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ei gynnal ddoe (dydd Mercher, Mehefin 15).

Mae Annwen Hughes yn Gynghorydd dros Harlech a Llanbedr ar Gyngor Gwynedd, ac wedi bod yn Aelod Awdurdod ers pum mlynedd ac yn is-gadeirydd am ddwy o’r rheini.

Cafodd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cynghorydd Gwynedd dros Waunfawr, ei ethol yn Is-Gadeirydd.

Cafodd chwe aelod newydd eu croesawu i’r cyfarfod, ac am y tro cyntaf erioed mae nifer hafal o ddynion a merched ar y pwyllgor.

Y Cynghorwyr newydd yw Louise Hughes, June Jones, Kim Jones a Meryl Roberts o Gyngor Gwynedd a Jo Nuttall a Dilwyn Owain Roberts o Gyngor Sir Bwrdeistrefol Conwy.

Byddan nhw ar yr Awdurdod am bum mlynedd nes yr etholiadau cyngor lleol nesaf.

‘Diolch’

“Yn gyntaf oll hoffwn ddiolch i’m cyd-aelodau am fy’n ethol i’r swydd anrhydeddus hwn,” meddai Annwen Hughes.

“Hoffwn hefyd ddiolch i Wyn Ellis Jones am ei arweiniad proffesiynol ac ymroddgar fel Cadeirydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Rwy’n edrych ymlaen i arwain yr Awdurdod yn y dyfodol agos, er mwyn gwarchod ein cymunedau arbennig a thirweddau unigryw er mwyn i genhedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.”

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r chwe aelod sydd wedi gadael y bwrdd yn ddiweddar am eu gwasanaeth i’r Awdurdod dros y tymor diwethaf, mae eu cyfraniadau wedi bod yn amhrisiadwy dros amser caled i ni gyd,” meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr yr Awdurdod.

“Mae’r Parc Cenedlaethol yn dirwedd byw a mi fydd bwrdd yr Awdurdod yn wynebu heriau megis gwarchod bioamrywiaeth a rheoli ymwelwyr tra hefyd yn wynebu ffactorau eraill megis newid hinsawdd a chwyddiant.”