Mae swyddogion yn ystyried tynnu arwyddion Gwyddeleg oddi ar y ffyrdd yng ngogledd Belffast, yn ôl y wasg yng Ngogledd Iwerddon.

Cafodd yr arwyddion eu codi gan Sinn Fein yn ardaloedd Deerpark ac Oldpark, ac maen nhw’n cynnwys y geiriau Saesneg a Gwyddeleg am ‘Araf’.

Ond fe wnaeth Brian Kingston, sy’n Aelod Cynulliad y DUP, ag Adran Isadeiledd y Cyngor gan fynnu bod yr arwyddion yn cael eu hystyried yn “ymfflamychol” gan unoliaethwyr.

Mae’r Adran Isadeiledd yn dweud bod y mater “dan ystyriaeth”.

Dywed Sinn Fein eu bod nhw’n “syfrdan” gan ymdrechion i gyflwyno dadleuon ymwahanol yn erbyn yr arwyddion ffyrdd, a’i bod hi’n “werthchweil” cael yr arwyddion hyd yn oed os ydyn nhw ond yn achub bywyd un person yn y pen draw.