Mae Ben Lake wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymestyn y rhyddhad treth tanwydd i Gymru.

Daw hyn ar ôl i Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, sy’n llefarydd Trysorlys y Blaid, gyfarfod â’r Trysorlys yr wythnos hon i drafod y mater wrth i gostau tanwydd barhau i gynyddu, nid lleiaf mewn ardaloedd gwledig.

Fe wnaeth e grybwyll y mater yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn San Steffan ar Fai 25, gan annog Boris Johnson i ymestyn y cynllun i Gymru, gan mai yn ardaloedd gwledig Lloegr a’r Alban mae e ar gael ar hyn o bryd.

Mae’r rhyddhad yn cael ei gynnig i fanwerthwyr ac yn cael ei drosglwyddo i gwsmeriaid drwy ostwng prisiau tanwydd.

Mae Ben Lake wedi dweud wrth Helen Whately, Ysgrifennydd y Trysorlys, fod rhaid ymestyn y cynllun i Gymru, lle mae’r gyfran uchaf o bobol (80%) yn y Deyrnas Unedig yn teithio mewn car i’r gwaith.

Mae Plaid Cymru’n awyddus i weld y cynllun yn cael ei addasu yn unol â lefelau buddsoddiad mewn isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus.

O ystyried isadeiledd gwael yng Nghymru, mae Ben Lake yn galw am gyflwyno cyfres o fesurau tymor byr i helpu aelwydydd a busnesau sy’n ei chael hi’n anodd talu costau tanwydd uwch ac sydd heb ddewis ond gyrru.

‘Argyfwng’

“Ro’n i’n falch o sicrhau cyfarfod gyda’r Gweinidog ar ôl codi’r argyfwng sy’n wynebu pobol ar draws fy etholaeth yn uniongyrchol â’r Prif Weinidog fis diwethaf,” meddai Ben Lake.

“Mae’r achos o blaid ymestyn y Cynllun Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig yn glir, ac fe wnes i argymell yn gryf wrth y Llywodraeth eu bod nhw’n gweithio’n adeiladol i helpu cymunedau gwledig yn yr argyfwng costau byw yma.

“Mae isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus gwael, yn drist iawn, yn golygu mai prin yw’r dewis i nifer o’m hetholwyr ar gyfer teithiau hanfodol, ac maen nhw’n ddibynnol ar ddefnyddio’r car.

“Yn 80%, mae Cymru’n parhau â’r gyfran uchaf o bobol yn teithio i’r gwaith yn y car o gymharu â rhanbarthau Lloegr neu’r Alban.

“Dydy ardaloedd gwledig Cymru ddim yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd, er eu bod nhw’n bodloni bron bob un o’r meini prawf.

“Rhaid addasu’r cynllun er mwyn ystyried mynediad at rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus lleol, yn ogystal â sicrwydd o gynnwys ardaloedd Cymru o fewn y cynllun.

“Byddaf yn ysgrifennu at y Gweinidog er mwyn ceisio eglurder ynghylch y rhesymeg wrth gau Cymru allan o’r cynllun ac am ragor o ymchwilio i sut mae modd diweddaru’r meini prawf.”