Dros y 12 wythnos nesaf bydd dau gynllun gan Fenter Môn, sef Llwyddo’n Lleol 2050 ac Arloesi Gwynedd Wledig, yn cydweithio ar gynllun newydd sy’n edrych ar sut gall busnesau gogledd Cymru fod yn fwy ecogyfeillgar.

Bydd pump o bobol ifanc rhwng 18 a 30 oed yn cael eu cyflogi i edrych ar wahanol agweddau ar amryw o fusnesau lleol.

Y pump sydd wedi eu dewis fel swyddogion amgylcheddol yw Bronwen Fleming, Aron Evans, Leela Whitley, Gwynfor Rowlinson a Jasmina Morris.

Byddan nhw’n gweithio gyda busnesau lleol sef Bragdy Lleu, Si-lwli, Y Galeri, Antur Waunfawr a’r Dref Werdd gan anelu i wella ôl-troed carbon y busnesau hynny.

Bydd y pum swyddog hefyd yn derbyn hyfforddiant wythnosol gan arbenigwyr a chyflogwyr o fewn y maes amgylcheddol fel Tech Tyfu, Cyfoeth Naturiol Cymru a Morlais.

“Mae gennym ni gynlluniau o bob math fel defnyddio gwastraff bragu cwrw er mwyn creu bisgedi cŵn a defnyddio gwastraff coffi er mwyn creu logiau tân coffi,” meddai Jade Owen, arweinydd cynllun Llwyddo’n Lleol 2050.

“Ac mae gennym ni rai ar gyfer busnesau eraill sydd eisiau lleihau faint o blastig maen nhw’n defnyddio.”

Mewnwelediad i’r maes amgylcheddol

Bwriad y cyfle i’r unigolion yw rhoi mewnwelediad i’r maes amgylcheddol a dangos y posibiliadau gyrfaol sy’n bodoli o fewn y maes, meddai Jade Owen.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, rydan ni wedi gweld, wrth gwrs, fod yna fwy o bwyslais ar fusnesau i fod yn fwy ecogyfeillgar ac o fewn Menter Môn rydan ni’n gwneud lot o waith o fewn y sector amgylcheddol.

“Felly roedden ni’n gweld hwn yn gyfle gwych i ddod â phob dim at ei gilydd ac i dynnu sylw pobol ifanc at gyfleoedd a chynlluniau amgylcheddol sy’n digwydd yn lleol.

“Mae yna ymdeimlad ymysg pobol ifanc weithiau, os wyt ti eisiau gwaith o fewn y sector amgylcheddol bod angen symud i ffwrdd i wneud y math yna o waith.”

Yn ôl Dafydd Gruffydd, Rheolwr-Gyfarwyddwr Menter Môn, mae ‘Swyddogion Amgylcheddol’ yn “gynllun arbennig arall”.

“Mae’n ffordd o ddatblygu sgiliau pobol ifanc lleol a hefyd yn ffordd arbennig o ddatblygu busnesau gogledd Cymru er mwyn sicrhau dyfodol gwyrddach i’r ardal leol,” meddai.

“Mae o’n hollbwysig eu bod nhw’n cael y cyfleoedd yma a phwrpas Llwyddo’n Lleol 2050 ydi herio tybiaeth pobol ifanc fod angen gadael yr ardal wledig neu Gwynedd a Môn i fod yn llwyddiannus.

“Rydan ni’n trio tynnu sylw at gyfleoedd mewn pob math o feysydd felly mae hwn yn gyfle da i dynnu sylw at y cynlluniau amgylcheddol sy’n digwydd a’r holl waith sy’n digwydd o gwmpas hynna.

“Bydd y bobol ifanc yn cael y cyfle i ymgysylltu efo’r busnesau, ymgysylltu efo eu hardal nhw a theimlo fel bod yna gyfleodd iddyn nhw lwyddo yn eu hardal leol.”