Mae prentisiaethau dwyieithog yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant busnes blaenllaw o’r gogledd sy’n un o gwmnïau peirianneg sifil mwyaf Prydain.
Mae dros 500 o bobol yn gweithio i Jones Bros Civil Engineering UK, sydd â’i bencadlys yn Rhuthun, ac mae wedi recriwtio dros 100 o brentisiaid dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Gobaith y cwmni, sydd â chanolfan hyfforddi bwrpasol yn Ninbych, yw y bydd ganddo 30 o brentisiaid newydd erbyn mis Medi.
Mae prentisiaid sy’n siarad Cymraeg yn gallu gwneud eu prentisiaethau’n ddwyieithog, gan wneud y gwaith ymarferol yn Gymraeg a’r gwaith ysgrifennu yn Saesneg, yn bennaf oherwydd mai yn Lloegr y mae’r cyrff dyfarnu.
Mae Jones Bros yn darparu Prentisiaethau Sylfaen ar gyfer Gweithredwyr Peiriannau a Gweithwyr Adeiladu Cyffredinol mewn partneriaeth â The Construction Plant Competence Scheme (CPCS).
Caiff Prentisiaethau Uwch, Lefelau 4 a 5, mewn Peirianneg Sifil a Rheoli Adeiladau eu darparu gan Coleg Cambria.
City & Guilds a Pearson yw cyrff dyfarnu’r gwahanol brentisiaethau.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cymeradwyo Jones Bros am hyrwyddo dwyieithrwydd yn y gweithle.
‘Cymaint o hyfforddiant ag y gallwn yn Gymraeg’
Dywed Garmon Hafal, rheolwr hyfforddiant Jones Bros, fod y cwmni’n cyflogi dros 40 o brentisiaid ar hyn o bryd a’u bod nhw’n gobeithio recriwtio 30 arall erbyn mis Medi.
“Gan mai o ogledd-orllewin Cymru y daw dros hanner ein prentisiaid, mae’n well ganddyn nhw ddysgu trwy gyfrwng eu hiaith gyntaf, Cymraeg,” meddai.
“Rydyn ni’n gwneud y rhan fwyaf o’r hyfforddi llafar yn Gymraeg a’r gwaith papur yn Saesneg.
“Rydyn ni’n lwcus bod pump o’n saith hyfforddwr ac asesydd a’r rhan fwyaf o’r gweithwyr, o’r cyfarwyddwyr i lawr, yn siarad Cymraeg.
“Mae’n bwysig i’r cwmni ein bod yn cynnig cymaint o hyfforddiant ag y gallwn yn Gymraeg ac yn y ffordd fwyaf cyfforddus ar gyfer ein dysgwyr.
“Rydyn ni’n buddsoddi’n drwm yn ein Rhaglen Brentisiaethau sy’n eithriadol o bwysig gan ei bod yn rhoi cyfleoedd i bobol ifanc o bob rhan o Brydain ddatblygu gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu.
“Rydyn ni wedi rhoi cyfleoedd i 30 o bobl wneud prentisiaethau bob blwyddyn, ar gyfartaledd, dros y chwe blynedd diwethaf.
“Rydyn ni’n gwneud mwy nag sydd raid er mwyn datblygu gweithwyr sy’n fedrus mewn gwahanol feysydd yn ystod eu prentisiaethau.
“O’r 400 sy’n gweithio ar safleoedd gennym, mae dros 100 wedi dod trwy ein Rhaglen Brentisiaethau.”
Hanes y cwmni
Cafodd cwmni Jones Bros ei sefydlu yn yr 1950au, ac mae’r tîm arwain yn cynnwys aelodau o’r ail a’r drydedd genhedlaeth o’r teulu a’i sefydlodd.
Mae’r cwmni wedi ennill cytundebau ledled y Deyrnas Unedig mewn sectorau sy’n cynnwys priffyrdd, amddiffyn rhag llifogydd a’r môr, rheoli gwastraff ac ynni adnewyddadwy.
Dywed Mark Breeze, rheolwr dysgu seiliedig ar waith yng Ngholeg Cambria, fod y coleg yn cydweithio’n agos â Jones Bros i ddarparu’r Prentisiaethau Uwch presennol a’i fod yn gobeithio cynnig rhagor o gyfleoedd dwyieithog pan fydd symud tuag at y cymwysterau Adeiladu Lefel 3 newydd o fis Medi ymlaen.
“Rydyn ni’n awyddus i ddatblygu ein partneriaeth gyda Jones Bros drwy gydweithio’n agos a rhannu eu harferion da,” meddai.
“Mae cymwysterau adeiladu yn newid ac rydyn ni’n awyddus i’n partneriaeth fod hyd yn oed yn fwy cynhyrchiol.
“Mae’n amlwg iawn bod y cwmni’n cefnogi eu prentisiaid ac yn buddsoddi ynddynt er mwyn datblygu eu sgiliau a’u gallu ac mae hynny’n cyfrannu at lwyddiant y busnes.”
Gweithlu cynaliadwy
Dywed Emrys Roberts, cynghorydd ymgysylltu â chwsmeriaid y CITB, sy’n darparu grantiau i gwmnïau adeiladu i hyfforddi eu staff, fod prentisiaethau dwyieithog wrth galon model Jones Bros ar gyfer gweithlu cynaliadwy.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn bod prentisiaid o bob oed, sydd wedi cael addysg Gymraeg, yn gallu parhau i ddysgu yn yr iaith o’u dewis nhw,” meddai.
Mae’r CITB yn rhoi grantiau presenoldeb a chyflawniad ar gyfer Prentisiaethau Adeiladu.
“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog a gall hynny fod o gymorth mawr i gyflogwyr, yn enwedig wrth ddelio â chwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg,” meddai Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW.
“Gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith. Mae hefyd yn gaffaeliad i’r cyflogwr.
“Mae Jones Bros yn esiampl ardderchog ym maes prentisiaethau, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”
Prentisiaethau dwyieithog “yn bosibl ac yn fuddiol”
“Mae tynnu sylw at gyflogwyr llwyddiannus sy’n ymwneud â phrentisiaethau yn ffordd ardderchog o ddangos i fusnesau ac unigolion bod cefnogi prentisiaethau dwyieithog yn bosibl ac yn fuddiol,” meddai Dr Dafydd Trystan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i gyflogwyr a’u gweithwyr ddatblygu eu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella rhagolygon eu busnes a’u cyfleoedd ym myd gwaith.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru: https://gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu ffoniwch 0800 028 4844.