Mae bron i 39,000 o bobol wedi llofnodi deiseb ar-lein yn gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ostwng terfynau cyflymder o 30mya i 20mya ar strydoedd preswyl.

Mae disgwyl i’r ddeddf newydd ddod i rym o Fedi 17, 2023.

Yn ôl y Llywodraeth, bydd y ddeddf yn helpu i achub bywydau, creu cymunedau mwy diogel, gwella ansawdd bywyd ac annog mwy o bobol i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Mae’r llywodraeth yn amcangyfrif y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn costio tua £33m.

Fodd bynnag, mae’n honni y bydd yn arbed £58m o ganlyniad i lai o ddefnydd o wasanaethau brys a derbyniadau i’r ysbyty dros y 30 mlynedd nesaf.

‘Anhrefn’

Mae wyth ardal beilot wedi eu dewis i brofi’r terfynau cyflymder is hyd yma, gan gynnwys Bwcle yn Sir y Fflint, y dref lle mae’r ddynes sydd wedi creu’r ddeiseb, Adie Drury, yn byw.

“Mae’n achosi anhrefn, pobol yn osgoi’r ardal a phobol yn gorfod mynd ar ffyrdd eraill,” meddai.

“Dyw nifer o’r ffyrdd yma ddim yn addas ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya.

“Mae lorïau’n ei chael hi’n anodd mynd fyny bryniau mewn gêr mor isel ac mae cadw at gyflymder mor isel i lawr yr allt yn galed ar y brêcs.

“Nid yw hyn yn gwneud dim i leihau allyriadau, yn hytrach bydd mwy o lygredd am fod mwy o geir yn ei chael hi’n anodd aros mewn gêr is am gyfnod hirach.

“Mae wedi achosi oedi bysiau, gan wneud cymudo amgylcheddol yn fwy aneffeithlon nag yr oedd o’r blaen.”

 80% o blaid

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganlyniadau eu Harolwg Agwedd Gyhoeddus tuag at gyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd Cymru.

Dangosodd fod y rhan fwyaf o oedolion Cymru (61%) yn fodlon â’r terfyn cyflymder presennol ar gyfer eu stryd, tra bod tua thraean (34%) ddim.

Roedd eu harolwg hefyd yn nodi bod pedwar o bob pump o oedolion Cymru (80%) yn dweud y bydden nhw’n cefnogi terfyn cyflymder o 20 mya yn yr ardal maen nhw’n byw, o’i gymharu ag un o bob pump (20%) na fyddai’n gwneud hynny.

Ar hyn o bryd, dim ond 2.5% o ffyrdd Cymru sydd â therfyn cyflymder o 20mya.

O’r flwyddyn nesaf, mae disgwyl i hyn gynyddu i 35%.