Mae’r Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £65m er mwyn helpu pobol i symud ymlaen o lety dros dro i lety parhaol.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro sy’n cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i greu capasiti tai ychwanegol.
Yn ôl Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, bydd y rhaglen yn dod â mwy na 1,000 o gartrefi ychwanegol dros y 18 mis nesaf.
Mae’r prosiectau’n cynnwys defnyddio cartrefi Dulliau Adeiladu Modern o safon uchel, adnewyddu ac ad-drefnu adeiladau presennol .
Bydd awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn defnyddio’r cyllid mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- Dod ag eiddo sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ac eiddo segur na fyddai fel arall yn cael eu hail-osod yn ôl i ddefnydd fel cartrefi i unigolion a theuluoedd
- Ail-fodelu llety presennol
- Troi adeiladau’n llety o ansawdd da
- Defnyddio dulliau modern o adeiladu fel math tymor canolig o dai ar rai safleoedd wrth iddynt gael eu datblygu ar gyfer tai parhaol.
‘Ein huchelgais yw i bawb gael cartref diogel’
“Trwy gydol y pandemig fe wnaethon ni weithio’n galed i ddarparu llety i bawb oedd ei angen,” meddai Julie James.
“Fe wnaethon ni sicrhau nad oedd unrhyw un yn cysgu ar y stryd neu’n ddigartref yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus.
“Mae angen inni adeiladu ar hyn yn awr a pharhau â’r gwaith i daclo ac atal digartrefedd drwy sicrhau bod achosion o hyn yn brin, yn fyr ac nad ydynt yn cael eu hailadrodd.
“Rydym wedi llwyddo i helpu miloedd o bobol i gael llety dros dro dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf ond mae llawer mwy o bobl yn dal i fynd at ein hawdurdodau lleol i gael help brys.
“Ein huchelgais yw i bawb gael cartref diogel, addas, parhaol ond mae ein system dai dan bwysau sylweddol, dyna pam ein bod yn adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol.
“Ble mae pobol mewn gwestai neu lety B&B dros dro, yn arbennig, gall fod yn anodd iddyn nhw symud ymlaen gyda’u bywydau.
“Mae angen mwy o opsiynau llety dros dro o ansawdd uchel – lle i alw’n gartref – er mwyn caniatáu i bobl fwrw ymlaen â’u bywydau, tra ein bod yn eu cefnogi i ddod o hyd i gartref parhaol.
“Rydw i’n gwneud hyd at £40m o gyllid cyfalaf ar gael i gefnogi amrywiol fentrau gan ein hawdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i helpu i sicrhau bod gan hyd yn oed mwy o bobl le i alw’n gartref.”
‘Llety o safon uchel’
“Bydd y prosiectau hyn yn darparu llety o safon uchel y mae eu hangen yn fawr i helpu i leddfu’r pwysau ar wasanaethau tai yn y tymor canolig,” meddai wedyn.
“Bydd y gwaith hwn yn ategu’r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol parhaol carbon isel yn ystod tymor y Senedd hon.”